1 Duw fy nghyfiownder clywaist fi,i’m cyni pan i’th elwais:Rhyddheaist fi, dod y’m un wedd,drugaredd, clyw fy oerlais.
2 O feibion dynion hyd ba hydy trowch trwy gyd ymgabledd,Fy mharch yn warth? a hynny sydddrwy gelwydd a thrwy wagedd.
3 Gwybyddwch ethol o Dduw cun,iddo’i hun y duwiolaf:A phan alwyf arno yn hy,efe a wrendy arnaf.
4 Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,meddyliwch ar eich gwely,
5 Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,rhodd cyfiownder yw hynny.
6 Pwy (medd llaweroedd) y pryd hyn,a ddengys yn’ ddaioni?O Arglwydd, dercha d’wyneb pryd,daw digon iechyd ini.
7 Rhoist i’n calon lawenydd mwy,(a hynny trwy dy fendith:)Nag a fyddai gan rai yn trin,amlder o’i gwin a’i gwenith.
8 Mi orweddaf ac a hunaf,a hynny fydd mewn heddwch:Cans ti Arglwydd o’th unic air,a bair y’m ddiogelwch.