Salm 25 SC

SALM XXV

Ad te Domine.

Dafydd yn ei drallod yn cydnabod ei fai, a’i fod yn haeddu cospedigaeth: a thrwy amryw fyfyrdod ysprydol, yn cael edifeirwch, a gobaith; ac yn rhoi diolch.

1 F’Arglwydd derchefais f’enaid ihyd attad ti yn union.

2 Fy Nuw, fy ngobaith, gwarth ni châ,na lawenhâ ’ngelynion:

3 Sawl a obeithiant ynot ti,y rhei’ni ni wradwyddir,Gwarth i’r rhai a wnel am i hamryw dwyll neu gam yn ddihir.

4 Arglwydd dangos ym’ dy ffordd di,a phâr i mi ei deall:Dysg ac arwain fi yr un weddyn dy wirionedd diball.

5 Cans tydi ydwyd Dduw fy maeth,a’m iechydwriaeth unig.Dy ddisgwyl yr wyf rhyd y dydd,a hynny fydd i’m diddig.

6 O cofia dy nawdd a’th serch di,o’th fawr dosturi Arglwydd,Cofia fod ynot ti erioed,lawn ddioed drugarogrwydd.

7 Na chofia yr enwiredd mau,na llwybrau fy ieuenctyd:Ond Arglwydd, cofia fy nghur ier dy ddaioni hyfryd.

8 Yr Arglwydd sydd union a da,a’i ffrwyth ym noddfa ydynt:Fe arwain, (fel y mae yn rhaid)y pechaduriaid ynthynt.

9 Fe ddysg ei lwybrau mewn barn iawn,i’r rhai ufyddiawn yssig,Hyddysg yw ei ffyrdd i bob rhaia fyddai ostyngedig.

10 I’r sawl a gatwo ddeddfau’r Ion,a’i union dystiolaethau,Gwirionedd, a thrugaredd fyddei lywydd yn ei lwybrau.

11 Er mwyn dy enw (o Arglwydd mau)Duw maddau fy enwiredd,Cans fy nrhoseddiad i mawr yw,Mwy ydyw dy drugaredd.

12 Mae, pa ryw wr yn ein mysg nisydd yn pur ofni’r Arglwydd?Fe ddengys y ffordd iddaw fo,hon a ddewiso’n ebrwydd.

13 O hyn y caiff fy enaid cule i letteu’n esmwyth:A’r holl ddaear hon a’i gwellâd,a gânt ei hâd a’i dylwyth.

14 Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,i’r sawl a ofno’r Arglwydd:Ac oi’ holl gyfanneddau glân,efe a’i gwna’n gyfarwydd.

15 Tueddu’r wyf fy Arglwydd mâd,yn wastad â’m golygon:Cans ef yn unic, (yn ddi oed)rhydd fy nau droed yn rhyddion.

16 Tro attaf, dod y’m nawdd diddig,cans unic wyf, a rhydlawd.

17 Gofidiau ’nghalon ynt ar led,Duw gwared fi o’m nychdawd.

18 Duw, gwel fy mlinder, a’m poen fawr,a madde’n awr fy mhechod:

19 Gwel fy ngelynion a amlhânt,ac a’m casânt yn ormod.

20 Cadw f’enaid, ac achub fi,na wnelo’r rheini ’m wradwydd:Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,a rhodiaf mewn perffeithrwydd.

21 Cadwed fi fy uniondeb maith,cans rhois fy ngobaith ynod.

22 Duw, cadw di holl Israel,gwared, a gwel ei drallod.