1 Duw! buost in’ yn Arglwydd da,ac yn breswylfa i drigo,O bryd i bryd, felly yr aethpob rhyw genhedlaeth heibio.
2 Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,cyn llunio llawr cwmpas-fyd,Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,hyd dragwyddoldeb hefyd.
3 Weithiau i ddinistr y troi ni,troi dithau wedi’n rhydda:A dwedi cyn ein mynd i’r llwch,dychwelwch meibion Adda.
4 Cans dec can mlynedd fel doe ynt,pan elo’i helynt heibio,O’th flaen di, megis gwylfa nos,ni chaiff ymddangos etto.
5 Nid yw dyn ond fel hun,neu ail i addail, neu lifeiriant.Neu megis glâs lysieun gwan,mor fuan y newidiant.
6 Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,a gwawr o newydd arno:Ond pan y torrer er brydnawn,yn fuan iawn mae’n gwywo.
7 Cans yn dy lid difethwyd nigan ofni dy ddigofaint,
8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,a’n holl ddirgelion dryghaint:
9 Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,a’n tegwch gwedi darfod:A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,fel gorphen hen chwedl gorfod.
10 Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,dau pump chwaneg os bydd grym:Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,i ffordd yr awn yn gyflym.
11 Ond pwy a edwyn nerth dy lid?mawr ofid sydd o’th sorri:Sef fel y mae dy ofn di’n fawr,dy ddig sydd ddirfawr inni.
12 Dysg felly’n rifo’n dyddiau gwael,i’n calon gael doethineb.
13 Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawddi’th weision nawdd ac undeb.
14 Yn forau iawn diwalla niâ’th fawr ddaioni eisoes,Fel y caffom ni lawen fydyn hyfryd dros yn heinioes.
15 Gwna ni yn llawen, buom bruddban oedd yn’ gystudd dybryd:A chwedi llawer blwyddyn drom,y rhai y cowsom adfyd.
16 O Dduw, gwna weled dy fawr waith,a’th wrthiau maith i’th weision:A’th odidowgrwydd, a’th ffyniant,ymysg eu plant a’i hwyrion.
17 Arnom ni doed rhâd Duw a’i nerth dda,i allu prydferth weithiaw,Duw dod ein gwaith mewn trefnidDuw trefna waith ein dwylaw.