Salm 45 SC

SALM XLV

Eruotauit eur meum.

Anrhydedd, nerth, a phrydferthwch Salomon: bendithio ei briodas ef a’r Aiphtes, os hi a ymwrthodei â’i thylwyth, gan ddilyn ei gwr; a hyn yn arwydd o Ghrist a’r eglwys o’r cenhedloedd.

1 Traethodd fy nghalon bethau da,i’r brenin gwna’ fyfyrdod:Fy nhafod fel y pin, y syddyn llaw scrifennydd parod.

2 Uwch meibion dynion tegach wyd,tywalldwyd rhad i’th enau,Herwydd i Dduw roi arnat wlithei fendith byth a’i radau.

3 Gwisg dy gleddau yng wasg dy glun,o gadarn gun gogonedd:A hyn sydd weddol a hardd iawn,mewn llwydd a llawn orfoledd.

4 Marchog ar air y gwir yn rhwydd,lledneisrwydd, a chyfiownedd:A’th law ddeau di a â drwybethau ofnadwy rhyfedd.

5 A thanat ti pobloedd a syrth,gan wyrth dy saethau llymion:Briwant hwy, a glynant yn glauym mronnau dy elynion.

6 Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)a bery o dragwyddoldeb:Awdurfaingc dy dyrnas y syddawdurol: rhydd uniondeb.

7 Ceraist uniondeb: case’ist gam,o achos pa’m: Duw lywydd,Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,sef ennaint y llawenydd.

8 Aroglau myrh, ac aloes da,a chasia sy ar dy ddillad,Pan ddelych di o’th Ifyrn daille i’th lawenai’r hollwlad.

9 Sef merched brenhinoedd yn gwaugyda’ch garesau cywir,O’th du deau’r frenhines doethmewn gwisg aur coeth o Ophir.

10 Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,ac a chlust isel gwrando:Mae’n rhaid yt ollwng pawb o’th wlâd,a thy dy dâd yn ango’.

11 Yna’i bydd (gan y brenin) wychgael edrych ar dy degwch:Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,i gael i’th oes hyfrydwch.

12 Merched Tirus oedd â rhodd dda:a’r bobloedd appla o olud:A ymrysonent gar dy fron,am roi anrhegion hefyd.

13 Ond merch y brenin, glân o fewn,anrhydedd llawn sydd iddi:A gwisg o aur a gemmau glânoddiallan sydd am dani.

14 Mewn gwaith gwe nodwydd y daw honyn wych gar bron ei harglwydd,Ac a’i gwyryfon gyda hidaw attad ti yn ebrwydd.

15 Ac mewn llawenydd mawr a heddac mewn gorfoledd dibrin,Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwysi gyd i lys y brenin.

16 Dy feibion yn attegion tauyn lle dy dadau fyddant,Tywysogaethau drwy fawrhâd,yn yr holl wlâd a feddant.

17 Coffâf dy enw di ymhob oes,tra caffwyf einioes ymy:Am hyn y bobloedd a rydd fawl,byth yn dragwyddawl ytty.