1 F’Arglwydd mi a’th fawrygaf di,cans myfi a ddyrchefaist,A’m gelynion i yn llawenuwchlaw fy mhen ni pheraist.
2 Fy Nuw, pan lefais arnat tiy rhoddaist i mi iechyd,
3 Cedwaist fy enaid rhag y bedd,a rhag diwedd anhyfryd.
4 Cenwch i’r Ion chwi ei holl saint,a maint yw gwyrthiau’r Arglwydd:A chlodforwch ef gar ei fron:drwy gofion o’i sancteiddrwydd.
5 Ennyd fechan y sai’n ei ddig,o gael ei fodd trig bywyd:Heno brydnawn wylofain fydd,y borau ddydd daw iechyd.
6 Dywedais yn fy llwyddiant hir,nim’ syflir yn dragywydd:O’th ddaioni dodaist, Dduw Ner,sail cryfder yn fy mynydd.
7 Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,a blinder mawr a gefais.
8 Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,fy Arglwydd, i’r ymbiliais.
9 Pa fudd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed,pan rwyf dan draed yn gorwedd?A phwy a gân yt’ yn y llawr,dy glod a’th fawr wirionedd?
10 Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,dod gymorth da i’m bywyd,
11 Canys yn rhâd y troist fy mâr,a’m galar, yn llawenfyd:Am ytty ddattod fy sâch grys,rhoist wregys o lawenydd:
12 Molaf a chanaf â’m tafod,i’m Arglwydd glod dragywydd.