1 O Achub fi fy Nuw, fy Ner,cans mae fy hyder ynod:Rhag fy erlidwyr gwared fi,cans mae o’r rheini ormod.
2 Rhag llarpio f’enaid fel y llew,heb un dyn glew a’m gweryd:A’m rhwygo i yn ddrylliau mân,fal dyna amcan gwaedlyd.
3 O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,os drwg y sy’n fy nwylaw:
4 Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,pe bawn wrthwyneb iddaw:
5 I erlid f’oes y gelyn doed,dalied, a rhoed fi’n isaf,A sathred f’urddas yn y llwch,drwy’r diystyrwch eithaf.
6 Cyfod o Dduw, cyfod i’th ddig,a gostwng big pob gelyn:A deffro drosof yn y farn,sef cadarn yw d’orchymyn.
7 Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,a ddaw o’th ddeutu attad:Duw dychwel i’th farn er eu mwyn,a gwrando’n cwyn yn wastad.
8 Duw dyro i’r bobl y farn dau,a barn di finnau Arglwydd:Ac fel yr haeddais dod farn iawn,yn ol fy llawn berffeithrwydd.
9 Derfid anwiredd y rhai drwg,gwna’n amlwg ffordd y cyfion:Cans union wyd, a chraff, Duw cu,yn chwilio deutu’r galon.
10 Ac am fod Duw yn canfod hyn,Duw yw f’amddiffyn innau:Duw sydd iachawdur i bob rhai,sydd lân ddifai’i calonnau.
11 Felly mae Duw byth ar yr iawn,a Duw yw’r cyfiawn farnydd:Wrth yr annuwiol ar bob tromae Duw yn digio beunydd.
12 Ac oni thry’r annuwiol câs,fo lifa’i loywlas gleddau:Ar ynnyl y mae bwa’r Ion,a’i barod lymion saethau.
13 Sef arfau angau at y nod,y maent yn barod ddigon:Ac ni saetha ef ergyd byrrat yr erlidwyr poethion.
14 Wele hanes y gelyn drwg,efe a ymddwg ar draha:O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,ar gelwydd yr esgora.
15 Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,o fwriad mawr i’r truan:Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,i’r dyfn i’w glawdd ei hunan.
16 Ei holl enwiredd ar ei ben,o uchder nen a ddisgyn:A Duw a ddymchwyl yr un wedd,ei gamwedd ar ei goryn.
17 Im harglwydd Duw rhof finnau glod,câf ganfod ei gyfiownder.A chanmolaf ei enw yn rhwydd,yr Arglwydd o’r uchelder.