1 Trugaredd Duw i’n plith,a rhoed ei fendith drosom:A thywynned ei wynebpryd,a’i nawdd, a’i iechyd arnom.
2 Fel y gwyper dy ffyrdddrwy’r ddaiar gydwyrdd gnydoedd:A’th iechydwriaeth di (o Dduw)y’mysg pob rhyw genhedloedd.
3 Duw: moled pobloedd di,rhoent fawl a bri drwy’r hollfyd.
4 A’r holl genhedloedd is wybren,byddant lawen a hyfryd.Cans ti a ferni’n iawny bobl drwy lawn wybodaeth,Ac a roi’r holl genhedloedd ary ddaiar mewn llywodraeth.
5 Duw, moled pobloedd di,rhoent fawl a bri trwy’r hollfyd.
6 Yna rhydd y tir ffrwyth i’n plith,a Duw ei fendith hefyd.
7 A Duw, sef Duw ein tâd,a rotho ei râd a thycciant:A therfynau y ddaiar gron,a phawb ar hon a’i hofnant.