1 Duw yn d’enw cadw fi’n dda,a barna i’th gadernid.
2 Duw clyw fy ngweddi, gwrando ’nghwyna’m llef yn achwyn wrthyd.
3 Cans codi’m herbyn i yn chwyrnmae cedyrn ac estroniaid.Ac heb osod Duw gar eu bron,mor greulon ynt i’m henaid.
4 Wele Duw fydd ym’ cymorth rhagpwy bynnag a gais dial:Duw sydd gyda’r rhai sy’ ar blaidfy enaid, er ei gynnal.
5 Efe a dâl o’r achos honi’m gelynion eu drygedd,O torr di ymaith hwynt (fy Ion)yn eigion dy wirionedd.
6 Rhof aberth yt o wllys da,a chlod-fora’ dy enwFy Arlwydd cymmwys ydyw hyn,sef ti wyd yn fy nghadw,
7 Gwir yw, Duw a’m gwaredodd io’m cyni a’m trallodion:A’m llygad a gafodd ei fryd,a’i wynfyd o’m caseion.