Salm 147 SC

SALM CXLVII

Laudate Dominum.

Mae’r prophwyd yn moli amryw ddaioni Duw tuag at ei greaduriaid, ac yn enwedig eu eglwys, yr hon a gasclwyd, ac a gafas ragor ddaioni rhagor vn bobl eraill.

1 Molwch yr Arglwydd, cans da ywcanu i Dduw yn llafar:O herwydd hyfryd yw ei glod,a da yw bod yn ddiolchgar.

2 Caersalem dinas gyflawn fyddyr Arglwydd sydd iw darpar:Can gasglu Israel ynghyd,a fu drwy’r byd ar wasgar.

3 Yr unic Arglwydd sy’n iachâu,yn rhydd o friwiau’r galon:Yr Arglwydd rhwym ’cu brwiau’n iawny rhai dolur-lawn cleifion.

4 Yr Arglwydd sydd yn rhifo’r ser,a phob rhyw nifer honynt:Ef a’i geilw hwynt oll yn glau,Wrth briod enwau eiddynt.

5 Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,a phrydferth o rasoldeb:Ac mae’n bell iawn uwch ben pob rhif,son am ei brif ddoethineb.

6 Yr Arglwydd unic sydd yn dali gynnal y rhai gweiniaid,Ac ef a ostwng hyd y llawry dorf fawr annuwioliaid.

7 Cenwch i’r Arglwydd mal y gwedd,clodforedd iddo a berthyn:O cenwch, cenwch gerdd i’n Duw,da ydyw gyda’r delyn.

8 Hwn â chymylau troes y nen,â glaw’r ddayaren gwlychodd,I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,a llysiau’i ddynion parodd.

9 Hwn i’r anifael ar y bryna rydd yr hwn a’i portho:Fe bortha gywion y cigfrain,pan fo’nt yn llefain arno.

10 Nid oes gantho mewn grym un march,na serch na pharch, na phleser:Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,fal dyna gyflwr ofer.

11 Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn,yr hwn y sy’n ei hoffi:Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,caiff hwn yn hawdd ddaioni.

12 O Caersalem gyfiawn o lwydd,molianna’r Arglwydd eiddod:O Seion sanctaidd, dod un weddi’th Dduw glodforedd barod.

13 Herwydd yr Arglwydd â’i fawr wyrtha wnaeth dy byrth yn gryfion:A rhoes ei fendith, a thycciant,ymlhith dy blant a’th wyrion.

14 Hwn a roes heddwch yn dy fro,fel y cynnyddo llwyddiant,Ac a ddiwallodd yn eich plith,o frasder gwenith, borthiant.

15 Ei orchymyn ef a ddenfyn,o’i ddown-fawr air cymhesur,Hwn ar y ddaiar â ar led,ac yno rhed yn brysur.

16 Eirch i’r eira disgyn fel gwlân:eirch rew, fe’i tân fel lludw,

17 Eirch ia, fe ddaw yn defyll cri,pwy’ erys oerni hwnnw?

18 Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,fe bair i’r gwynt ochneidioI doddi’r rhai’n, ac felly byddi’r holl afonydd lifo.

19 Grym ei air, a’i ddehaulaw gref,a ddengys ef i Jaco:A’i ffydd a’i farn i Israel,a’r rhai a ddel o hono.

20 Ni wnaeth efe yn y dull hwn,â neb rhyw nassiwn arall;Ni wyddent farnu’r Arglwydd nef.O molwch ef yn ddiball.