Salm 143 SC

SALM CXLIII

Domine exaudi.

Gweddi am faddeuant pechodau. Dymuno cael ei dderbyn i drugaredd, a chael Yspryd Duw iw gadw hyd ddiwedd ei fywyd.

1 Erglyw fy arch, o Arglwydd mâd,wyf arnad yn gweddio:O’th wirionedd, a’th gyfiownedd,gofynnaf yt fy ngwrando.

2 Ac na ddos i’r farn â’th wâs gwael,(pa les i’m gael cyfiownder?)Am nad oes dyn byw gar dy fronyn gyfion pan ei teimler.

3 Y gelyn a erlidiodd f’oes,mewn llwch i’m rhoes i orwedd:Fal y rhai meirwon a fai’n hir,is tywyll dir a’i hannedd.

4 Yna fy ysbryd, mewn blin ing,a fu mewn cyfing-gyngor:

5 Ac ar fy nghalon drom daeth braw:ond wrth fyfyriaw rhagor.Mi a gofiais y dyddiau gynt,a helynt gwaith dy ddwylo:Am hyn myfyriais, fy Nuw Naf,am hyn myfyriaf etto.

6 Fy nwylaw attad rhois ar led,lle y mae f’ymddiried unig:Am danad f’enaid sydd yn wir,un wedd â’r tir sychedig.

7 Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,o Arglwydd, pallodd f’yspryd:Rhag imi fyned i’r pwll du,fel rhai a ddarfu eu bywyd.

8 Par i’m ar frys glywed dy nawdd,cans ynot hawdd y credais:A dysg i’m rodio dy ffyrdd rhâd,cans f’enaid attad codais.

9 A gwared fi fy Nuw, a’m Ion,rhag fy ngelynion astrys:Am fod fy lloches gydâ thi:

10 o dysg i mi d’ewyllys:Cans tydi ydwyt y Duw mau,boed d’ Yspryd tau i’m tywysAr yr uniondeb yn y tir,dyma dy wir ewyllys.

11 Duw, er mwyn d’enw fi bywhâ,a helpa f’enaid tyner:Allan o ing Duw cais ei ddwyn,ac er mwyn dy gyfiownder.

12 A gwna ar yr elynol blaid,caseion f’enaid, gerydd:Difetha hwynt er mwyn dy râs,cans mi wyf dy was ufydd.