1 Yr Arglwydd yw fy ’mugail clau,ni âd byth eisiau arnaf:
2 Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,ar lan dwfr gloywlas araf.
3 Fe goledd f’enaid, ac a’m dwgrhyd llwybrau diddrwg cyfion,Er mwyn ei enw mawr dilysFo’m tywys ar yr union.
4 Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)yn nyffryn cysgod angau,Wyd gyda mi, a’th nerth, a’th ffon,ond tirion ydyw’r arfau:
5 Gosodaist fy mwrdd i yn frâs,lle’r oedd fy nghâs yn gweled:Olew i’m pen, a chwppan llawn,daionus iawn fu’r weithred.
6 O’th nawdd y daw y doniau hyni’m canlyn byth yn hylwydd:A minnau a breswyliaf bytha’m nyth yn nhy yr Arglwydd.