Salm 42 SC

SALM XLII

Quemadmodum.

Dafydd heb gael gan ei erlidwyr ddyfod i’r gynulleidfa sanctaidd, yn dangos fod ei galon ef yn bresennol gydâ hwy, a bod ei holl ymddiried ef yn yr Arglwydd.

1 Yr un wedd ag y bref yr hyddam yr afonydd dyfroedd:Felly y mae fy hiraeth iam danat ti o’r nefoedd.

2 Fy enaid i sychedig yw,am fy Nuw byw, a’i gariad:Pa bryd y dof fi gar dy fron?fy Nuw a’m cyfion ynad.

3 Fy nagrau oeddynt ddydd a nosyn fwyd ym’, achos gofynYm am fy Nuw bob pen awr bach,ple mae fo bellach? meddyn.

4 O gofio hyn wrthyf fy hun,fel tywallt ffun fy einioes:Ynghyd a theulu Duw yr awn,be cawn fy meddwl eisoes.Hyd at dy Dduw yn ystig iawnyr awn, dan ganu clodydd:Fel tyrfa a fai’n cadw gŵyl,hyn bum i’w ddisgwyl beunydd.

5 Trwm wyd f’enaid o’m mewn:paham y rhoi brudd lam ochenaid?

6 Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.

7 Fy enaid o’m mewn pan fo prudd,a â yn rhydd o’th gofion:A chofio yr Iorddonen iâch,ar mynydd bâch o Hermon.

8 Dyfnder is dyfnderau y sydd,ac ar eu gilydd galwant:A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,hwy dros fy mron a aethant.

9 Fy Naf a roes y dydd ym’ hedd,a’r nos gyfannedd ganu,I ganmawl fy Nuw, hwn a roesym’ einioes iw foliannu.

10 Paham im’ gedyt dros gof cyd?Duw, wrthyd yr achwynaf.

11 Er gorthrymder y gelyn cam,mewn galar pa’m y rhodiaf?

12 Trwy f’esgyrn taro cleddyf llymmewn gwarthlid ym, oedd edliwYm’ om gelynion er fy ngwae,dy Dduw p’le mae fo heddiw?

13 Trwm wyd f’enaid o’m mewn:paham y rhoi brudd lam ochenaid?

14 Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bronei wyneb tirion cannaid.