Salm 35 SC

SALM XXXV

Indica me Domine.

Dafydd yn gweddio am ddial ar weinieithwyr Saul, y rhai a’i herlidient, a thros ei gyfeillion ef. Ac yn addaw moli Duw yn dragywydd.

1 Pleidia (o Arglwydd) yn fy hawl,â’r sawl a dery’n ferbyn:Lle’r ymrysonant â myfi,ymwana di â’r gelyn.

2 Mae dy gymorth: o moes ei gael,ymafael yn y tarian:O cyfod cais dy astalch gron,a dwg dy waywffon allan.

3 Argaua ar y rhai sy ar gam,i’m herlid am fy mywyd:Wrth fy enaid, dywaid fel hyn,fy fi a fynn yt’ iechyd.

4 Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,a geisio ladd fy enaid:A thrwy gywilydd troed iw holy ffals niweidiol gablaid.

5 Fel yr us o flaen gwynt y bon’:Angel yr Ion i’w chwalu:

6 A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,a hwn wrth gefn iw gyrru.

7 Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,a wnaethbwyd ym heb achos:Heb achlysur, maglau a wnaidi’m henaid yn y cyfnos.

8 O deued, cwymped yn ei rwyd,yr hon a guddiwd allan:Syrthied a glyned iw delm rwyll,a’i drapp o’i dwyll ei hunan.

9 Eithr am fy enaid i (Amen)bid llawen yn yr Arglwydd:Fe a fydd hyfryd gantho hyn,lle daw i’r gelyn aflwydd.

10 O Arglwydd dywaid f’esgyrn i,pwy sydd a thi un gyflwr?Rhag ei drech yn gwared y gwan,a’r truan rhag ei ’speiliwr.

11 Tystion gau a godent yn llym,a holent ym’ beth anfad:

12 Drwg ym’ dros dda talent heb raid,a’m henaid braint ymddifad.

13 Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,rhown i’m nesaf liein-sach:Drwy hir ymostwng ac ympryd,cymrais fy myd yn bruddach,Yr un dosturiol weddi fau,a ddaeth o’m genau allan,A droes eilwaith (er fy lles)i’m mynwes i fy hunan.

14 Mi a ymddygais mor brudd dlawd,fel am fy mrawd neu ’nghymar:Neu fel arwyl dyn dros ei fam,ni cherdda’i gam heb alar.

15 Hwythau yn llawen doent ynghyd,pan bwysodd adfyd attaf:Ofer ddynion, ac echrys lufyth ym mingammu arnaf.

16 Rhai’n rhagrithwyr, rhai’n watworwyr,torrent hwy eiriau mwysaidd:Hwy a ’sgyrnygent arnaf fi,bob daint, a’r rheini’n giaidd.

17 Arglwydd edrych, ow pa ryw hydyw’r pryd y dof o’i harfod?Gwared fy enaid rhag y bedd,f’oes o ewinedd llewod.

18 Minnau a ganaf i ti glod,lle bo cyfarfod lluoedd:Ac a folaf dy enw a’th ddawn,wrth lawer iawn o bobloedd.

19 Na fydded lawen fy nghâs ddyn,i’m herbyn heb achossion:Ac na throed (er bwriadu ’mrâd)mo gwr ei lygad digllon.

20 Nid ymddiriedant dim mewn hedd,dychmygant ryfedd gelwydd:Dirwyn dichell, a gosod crywi’r rhai sy’n byw yn llonydd.

21 Lledu safnau, taeru yn dyn,a dwedyd hyn yn unblaid,Fei ffei ohonot, hwnt a thi,ni a’th welsom ni â’n llygaid.

22 Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,mor daer yn f’erbyn fuon:Ac na ddos oddiwrthif ymhell,rhag dichell fy nghaseion.

23 Cyfod, deffro, fy Nuw i’m barn,yn gadarn gydâ’m gofid:

24 Dydi a fynni’r uniondeb,ni watwar neb o’m pledig.

25 Na âd i’r gelyn calon waelddiweddu cael i wynfyd:Na rhodresu fy llyncu’n grwn,llyncaswn hwn yn ddybryd.

26 Gwarth a gwradwydd iddynt a ddelsy’n codi uchel chwerthin:Gwisger hwynt â mefl ac â chas,sydd ym alanas ryflin.

27 Llawen fo’r llaill a llawn o glod,sy’n coelio ’mod yn gyfion.Dwedant, bid i’n Duw ni fawrhânt,am roi llwyddiant iw weision.

28 Minnau fy Arglwydd gyda’r rhai’n,myfyriaf arwain beunyddDy gyfiownder di, a’th fawr glod,â’m tafod yn dragywydd.