1 Pa hyd fy Arglwydd, Dduw dilyth?a’i byth yr wyf mewn angof?Pa guddio r’wyd, (o Dduw) pa hyd?dy lân wynebpryd rhagof?
2 Ba hyd y rhed meddyliau trobob awr i flino ’nghalon?Pa hyd y goddefaf y dir?dra codir fy nghaseion.
3 O Arglwydd edrych arnaf fi,a chlyw fy ngweddi ffyddlon.Egor fy llygaid, rhag eu cauynghysgfa angau ddigllon.
4 Pe llithrwn ddim, (rhag maint yw’r llid)fo ddwedid fy ngorchfygu:A llawen fyddai fy holl gâs:dal fi o’th râs i fynu.
5 Minnau’n dy nawdd a rois fy ffydd,a’m holl lawenydd eithaf:Canaf i’m Duw am helpodd i,gwnaf gerddi i’r Goruchaf.