Salm 40 SC

SALM XL

Expectans expectaui.

Diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni i ddynion: addaw ymroi i wasnaethu Duw, ar modd i hynny: gwedi diolch y mae yn achwyn rhag ei elynion, ac yn mynd at Dduw am gymorth.

1 Bum yn dyfal ddisgwyl fy Ner,ef o’r uchelder clybu,Clustymwrandawodd ef fy llaispan lefais ar i fynu.

2 Cododd fyfi or pydew blin,a’r pridd tra gerwin tomlyd:A rhoes ar graig fy nhroed i wau,a threfn fy nghamrau hefyd.

3 A newydd gerdd i’m genau rhoes,clod iddo troes yn hylwydd.

4 Pawb ofnant pan y gwelant hyn,a chredan yn yr Arglwydd.

5 Pob gwr yn ddiau dedwydd ywa rotho ar Dduw ei helynt:A’r beilch, a’r ffeils a’r chwedlan tronid edrych efo arnynt.

6 Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,fel dy feddyliau ynny:A heb un dyn yn dysgu i ti,nac yn blaenori hynny.

7 Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,eu rhoi ar led, a’i canu,Mwy amlach ydynt nag y gallun dyn heb pall eu traethu.

8 Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,na chwaith un aberth cennyf:Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,hwy a egoryd ymy.

9 Hyn pan wrthodaist dwedais i,Duw wele fi yn dyfod

10 Megis o honof mae gwir puryn dy ysgrythur hynod.

11 Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,(o Dduw) rwy’ ’n fodlawn ddigon,Dy ewyllys di a’th lân ddeddfsy’n greddf yn nautu’r galon.

12 Mi a bregethais dy air cuynghanol llu mawr anian.Ac ni thawaf (fy’ Arglwydd gwyn)ti wyddost hyn dy hunan.

13 Dy iownder, iechyd, a’th air gwirni bum chwaith hir i’w celu,Na’th drugaredd, na’th roddion darhag un gynlleidfa meithlu.

14 Dithau (o Dduw) rhagof na cheldy dawel drugareddau,Dy nawdd a’th wir gosod ar lled,bont byth i’m gwared innau.

15 Dagrau o’m hamgylch fydd uwch rhif,a throso’n llif mae pechod:Amlach ydynt nâ’m gwallt i’m brig,a’m calon ddig sy’n darfod.

16 Tyred (fy Arglwydd) helpa’n rhodd,a rhynged bodd yt’ hynny:Bryssia i’m gwared, na thrig yn hwy,a bydd gynhorthwy ymy.

17 A chyd wradwydder hwynt ar gaisa fyn drwy drais fy nifa:A throer iw hol y rhai y syyn chwennych ymy ddirdra.

18 Bont hwy annedd-wâg yn lle tâly rhai a dyfal dafodEr gwradwydd ym’ a ddwedant hyn,ffei, ffei, ar destyn dannod.

19 Y rhai a’th geisiant di bob prydbont lawen hyfryd hylwydd:A dweded a’th gâr di (Dduw ner)mawryger enw’r Arglwydd.

20 Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,ac yn druan, a dyred,(O Dduw fy nerth) na thrig yn hir,dyrd rhag y dir i’m gwared.