1 Dyma’r amser yn ddi ymgel,gall Israel, fynegi,Yr Arglwydd nef oni bai ei foda’i arfod gydâ nyni.
2 Gydâ ni oni bai ei fod,pan ddaeth gwrth-drafod dynion:
3 Pan gododd llid i’n, a phoeni,llyngcasent ni yn fywion.
4 Y dyfroedd a’n boddasent ni,a’n hoes dan gefn lli buan:
5 Chwyddasent drosom, fel chwydd dwr:fal dyna gyflwr truan.
6 Bendigaid Ior ei law a droes:ac ef ni roes mo honomYn ysglyfaeth i’n rhwygo’n frauiw gwâg efeilliau llymion.
7 Ein henaid aeth yn rhydd o lyn,fal yr aderyn gwirion,Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,a minnau aeth yn rhyddion.
8 Ein holl gynnorthwy ni, a’n llwydd,sy’n nerth yr Arglwydd howddgar,Yr hwn drwy waith ei ddwylaw ef,a greawdd nef a daiar.