Salm 55 SC

SALM LV

Exaudi Deus.

Dafydd yn ofni Saul yn a ruthr, ac yn gweddio, ac yn achwyn faint ei greulondeb ef.

1 O Dduw gwrando fy ngweddi brudd,nac ymgudd rhag fy nghwynfan,

2 Erglyw a gwyl fy ngwael ystâd,a llais fy nâd a’m tuchan.

3 Hyn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,a phwys dyn llym iâs enwir,Y rhai a daerant arnaf ddrwg,a’i llid yn amlwg gwelir.

4 Gofid calon sy’n dwyn fy oes,daeth angau loes hyd attaf.

5 Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,a dychryn daeth ar f’uchaf.

6 O dra ofn dwedwn yn fy nghri,gwae fi am esgyll clommen,Yna’r ehedwn i le rhydd,i gael ym’ lonydd amgen.

7 Wele, awn i grwydro ym mhell,lle cawn ystafell fachog.

8 Yna y bryssiwn ar fy hyntrhac rhuad gwynt tymestlog.

9 Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)gwahana eu tafodau.Sef yn y ddinas amlwg draisa welais, a chynennau.

10 Dydd a nos ei chylchu yn dro,a rhodio rhyd ei chaerau,O’i mewn y mae enwiredd mawr,ac ar ei llawr bechodau.

11 Gan faint ei henwireddau hi,a maint drygioni beunydd,Nid ymâd twyll na dichell chwaithfyth ymaith o’i heolydd.

12 Ac ni wnaeth fy nghâs y gwaith hyn:pe gelyn, goddefaswn:A phe dyn atgas yn ei roch,yn hawdd y gochelaswn.

13 Ond tydi wr, fy nghyfaill gwar,fy nghymmar a’m cydnabod,

14 A fu mewn cyd-gyfrinach ddwysyn eglwys Dduw’n cyfarfod.

15 Terfysg angau arnaw y del,i’r pwll yr el yn lledfyw:Sef ymherfedd eu cartref caunid oes ond drygau distryw.

16 Minnau gweddiaf ar Dduw byw,yr hwn a’m clyw mewn amser,

17 Hwyr, a borau, a chanol dydd,a hyn a fydd drwy daerder.

18 Gwaredodd Duw yr enioes faumewn hedd yn nyddiau drygnaws,Lle’r oedd or blaen yn ferbyn lu,sef ar fy nhu troes liaws.

19 Duw a’i gostwng hwynt,ac a’m clyw, sef brenin yw er cynnoes.Hwythau heb ymado â’i chwant,fy Nuw nid ofnant eisoes.

20 Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,drwy godi braw a frochodd,Ef â’r unllaw (yn erbyn hedd)yr un glyfaredd torrodd.

21 Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,a’i fwriad ffyrf am ryfel:Pan fo oel ar ei dafod doethtyn gleddyf noeth yn ddirgel.

22 O bwrw d’ofal ar dy Dduw,o mynni fyw heb syrthio,Duw a geidw y cyfion byth,a’r drwg f’oi chwyth i gwympo.

23 Sef pob dyn gwaedlyd bradog dronid oesa fo hyd hanner,(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot timae’n gobaith i bob amser.