Salm 17 SC

SALM XVII

Exaudi Domine iuftitiam.

Achwyn rhag brenin Saul, a dangos ei deilyngdod yn yr achos.

1 O clyw gyfiownder Arglwydd mâd,ystyr fy nâd i’th grybwyll,Clust ymwrando a’r weddi fausydd o wefusau didwyll.

2 Disgwilia’ marn oddiwrthyt ti,cans da y gweli’r union:Profaist a gwyddost ganol nosmor ddiddos ydyw ’nghalon.

3 Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)ni chefaist ynof gamwedd,Fy myfyr mâd na’m meddwl llaes,na ddoed ymaes o’m dannedd.

4 I ochel cydwaith dynion drwg,drwy d’air a’th amlwg cyngor,Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,fe ddysgwyd ym ei hepgor.

5 Ond yn dy union lwybrau di,Duw, cynal fi yn wastad,Rhag llithro allan o’th iawn hwyl,Duw disgwyl fy ngherddediad.

6 Galw yr wyf arnad, am dy fodyn Dduw parod i wrando,Gostwng dy glust, a chlyw yn rhoddfy holl ymadrodd etto.

7 Cyfranna dy ddaionus râd,(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)I’r rhai sy’n ymroi dan dy law,rhag broch, a braw y trawsion.

8 Cadw fi’n anwyl rhag eu twyll,os anwyl canwyll llygad:Ynghysgod dy adenydd di,o cadw fi yn wastad.

9 Rhag yr annuwiol a’i mawr bwys,a rhag fy nghyfrwys elyn,Y rhai a gais fy enaid i,gan godi yn fy erbyn.

10 Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,ac yn rhy gâs eu geiriau:Ac yn rhoi allan ffrost ar lled,gan falched eu parablau.

11 Maent hwy yn amgylchu yn fliny lle ym ni’n cyniwer,Ac â’i golygon tua’r llawrmewn gwg a thramawr hyder.

12 Maent hwy fel llew, dan godi gwrych,a fai’n chwennych ysglyfaeth:Neu fel llew ifangc (er i les)a geisiai loches hyfaeth.

13 Cyfod Arglwydd, o’i flaen ef saf,dy help a gaf i’m henaid,A tharo’i lawr â’th gleddyf noethyr enwir fflamboeth tanbaid.

14 Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd,sy’ ai rhan i gyd oddiymma,Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plantyn fawr eu chwant a’i traha.

15 Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,a welaf lun d’wynebpryd,A phan ddihunwyf o’r hun hony byddaf ddigon hyfryd.