Salm 77 SC

SALM LXXVII

Voce mea ad Dom.

Dafydd yn cofio yr amryw brofedigaethau, a’r blinderau oedd arno: yn dangos mowredd Duw, ac yn ymgryfhau mewn ffydd.

1 Fy llais at Dduw, pan roddais lef,fy llais o’r nef fo’i clybu:A’m llais gweddiais ar Dduw Ner,pan oedd blinder yn tarddu.

2 Y dydd y rhedai ’mriw, a’r nosni pheidiai achos llafur,Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,a’m hoes yn gwrthod cysur.

3 Yna y cofiwn Dduw a’i glod,pan syrthiai drallod enbyd:Yna gweddiwn dros fy mai,pan derfysgai fy yspryd.

4 Tra fawn yn effro, ac mewn sann,heb allel allan ddwedyd,

5 Ystyriais yna’r dyddiau gynt,a’r helynt hen o’r cynfyd.

6 Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,heb gael amrantun, chwiliwnA chalon effro, genau mud,â’m hyspryd ymddiddanwn:

7 Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?a fydd ef bodlon mwyach?

8 A ddarfu byth ei nawdd a’i air?a gair ei addaw bellach?

9 Anghofiodd Duw drugarhâu?a ddarfu cau ei galon?A baid efe byth (meddwn i)fal hyn â sorri’n ddigllon?

10 Marwolaeth ym’ yw’r meddwl hwn:a throis yn grwn i gofioEi fawr nerth gynt: cofio a wnaf,waith y Goruchaf etto.

11 Cofiaf dy weithredoedd (f’Arglwydd)a’th wrthiau hylwydd cofiaf,

12 Am bob rhyfeddod a phob gwaith,â myfyr maith y traethaf.

13 O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw?dy ffordd di yw’n sancteiddiol:

14 Dy waith dengys dy nerth i’r byd,pair yn’ i gyd dy ganmol.

15 Dy nerth fawr hon a ro’ist ar led,wrth wared yr hen bobloedd,Jagof, a Joseph, a fu gaeth,a’i holl hiliogaeth luoedd.

16 Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,a dychryn cyn eu symmud.

17 Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,a mellt fal saethau enbyd.

18 Dy daran rhuodd fry’n y nen,dy fellt gwnaent wybren olau,Y ddaiar isod a gyffrodd,ac a dychrynodd hithau.

19 Yn eigion mor mae y ffordd dau,a’th lwybrau mewn deifr sugnedd,Ac ni adweinir byth mo’th ol,yn dy anfeidrol fowredd.

20 Dy bobloedd a dywysaist didrwy anial ddrysni efrydd,Gan law Moses, a’i frawd Aaron,fel defaid gwirion llonydd.