Salm 9 SC

SALM IX

Confitebor tibi.

Diolch am orfoledd, a deisyf ar Dduw ei ymddiffyn rhag llaw.

1 Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,o’m calon, ac yn hollawl:Ei ryfeddodau rhof ar led,ac mae’n ddyled eu canmawl.

2 Byddaf fi lawen yn dy glod,ac ynod gorfoleddaf:I’th enw (o Dduw) y canaf glod,wyd hynod, y Goruchaf.

3 Tra y dychwelir draw’n ei hol,fy holl elynol luoedd,Llithrant o’th flaen, difethir hwy,ni ddon hwy mwy iw lleoedd.

4 Cans rhoist fy marn yn fatter da,gwnaethost eisteddfa union:Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,tydi yw’r barnwr cyfion.

5 Ceryddaist, a distrywiaist diy cenhedlaethi cyndyn:Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,ni bydd byth son am danyn.

6 Distrywiaist dithau (elyn glâs)do lawer dinas hyfryd:Darfu dy nerth byth, darfu hyn,a’r cof o honyn hefyd.

7 Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,ac yn dragywydd pery:A pharod fydd ei faingc i farn,a chadarn ydyw hynny.

8 Cans efe a farna y byd,a’r bobl i gyd sydd yntho:Trwy gyfiownder, heb ofni neb,a thrwy uniondeb rhagddo.

9 Gwna’r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,trueiniaid fo’i hymddiffyn:Noddfa a fydd i’r rhai’n mewn pryd,pan fo caledfyd arnyn.

10 A phawb a’th edwyn rhon eu cred,a’i holl ymddiried arnad:Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,a geisio’i wyneb attad.

11 Molwch chwi’r Arglwydd, yr hwn syddyn sanctaidd fynydd Seion:A dwedwch i’r bobl fal yr oeddei holl weithredoedd mowrion.

12 Pan chwilio efe am waed neu drais,fe gofia lais y truain:Pan eisteddo a’r faingc y frawdfe glyw y tlawd yn germain.

13 Dy nawdd Arglwydd, dydi ym’ sydddderchafydd o byrth angau,A gwel fy mlinder gan fy nghâs,y sydd o’m cwmpas innau.

14 Fel y mynegwyf dy holl wyrth,a hyn ymhyrth merch Seion:Ac fel y bwyf lawen a ffraeth,i’th iechydwriaeth dirion.

15 Y cenhedloedd cloddiasent ffoslle’i suddent, agos boddi:I arall lle cuddiasant rwyd,eu traed a faglwyd ynthi.

16 Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,adwaenir wrth ei farnau:A’r annuwiol a wnaethai’r rhwyd,yn hon y daliwyd yntau.

17 Yr annuwiol i uffern aed,ac yno gwnaed ei wely:A’r rhai ollyngant Duw dros gof,bydd yno fyth eu lletty.

18 Cans byth y gwirion a’r dyn tlawdhyd dyddbrawd nis anghofir:Y gweiniaid a’r trueiniad, hwy,eu gobaith mwy ni chollir.

19 O cyfod Arglwydd yn dy wyn,na âd i ddyn mo’th orfod:Barna’r cenhedloedd gar dy fron,a’th farn yn union gosod.

20 Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy rym,yn awchlym i’th elynion.Fel y gwybyddont, pe baent mwy,nad ydynt hwy ond dynion.