Salm 66 SC

SALM LXVI

Iubilate Deo.

Y mae’n annog pawb i foli Duw yn ei weithredoedd, ac yn dangos ei allu ef a’i drugaredd i Israel, ac yn dysgu i bawb ei ofni a’i foli ef.

1 Yn Nuw ymlawenhewch i gyd,yr hollfyd, a datcenwch

2 Ogoniant ei enw hyd y nef,a’i foliant gref a draethwch.

3 Wrth Dduw dwedwch fo bair dy lawi’th elyn oerfraw anfad,Rhag amled yw nerth y llaw honâ dy gaseion danad.

4 Felly’r holl fyd i gyd a’i rhi’i ti a ymostyngant,Canant yt’ fawl, ac ânt hyd lawr,i’th enw mawr y canant.

5 O dowch, edrychwch ofnus ywgweithredoedd ein Duw cyfion,Ofn ei weithredoedd a rydd ddysgymysg holl feibion dynion.

6 Fo droes y mor coch yn dir sych,ai wyr yn droed-sych drwyddo:A thrwy yr afon: llawen fu,ei bod heb wlychu yno.

7 Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,a’i olwg edrych beunyddAr y cenhedloedd drwy’r holl fyd,ni chyfyd rhai anufydd.

8 O bobloedd molwch Dduw ar gais,a moeswch lais ei foliant:

9 Hwn sy’n dal bywyd yn y gwaeda ddeil ein traed na lithrant.

10 O Dduw, profaist a choethaist niun wedd a choethi arian.

11 Yn gaeth y dygaist ni i’th rwyd,ein cyrph a wasgwyd weithian.

12 Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,bu rai’n marchogaeth arnom:O peraist hyn: ni bu chwaith hir,i ddiwall dir y daethom.

13 Ac offrwm poeth i’th dy yr âftalaf fy addunedau,

14 Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais,addewais â’m gwefusau,

15 Poeth ebyrth breision yt a rof,aroglaeth cof cyfammod,Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,ac etto rhoddaf fychod,

16 O dowch yn nes a gwrandewch chwisy’n ofni Duw tragfythoes,Mi a fynegaf i chwi’n ffraethpa les a wnaeth i’m heinioes.

17 Llefais i arno â’m genau,a’r tafod mau a’i molawdd.

18 Pe troeswn fy nghalon at fai,Duw a’m gwrandawsai’n anawdd.

19 Diau Duw a’m clybu yn hawdd,gwrandawawdd ar fy ngweddi, 20 Bendigaid yw: fo a’m clywawdd,ni throes mo’i nawdd oddiwrthi.