Salm 83 SC

SALM LXXXIII

Deus quis similis.

Plant Israel yn gweddio, ar i Dduw eu gwared rhag eu gelynion: ac iddo gosbi rhai drwg fel yr ofnent ef.

1 Na ostega, na thaw, na fydddi lonydd Duw y lluoedd:

2 Wele, d’elynion yn cryfhau,gan godi’ pennau i’r nefoedd.

3 Ymgyfrinachu dichell ynn’,y lle mae ganthyn fwriad:A dychymygu dilen brudd,i ni sy’n ymgudd danad.

4 Dwedasant, dewch difethwn hwyntna byddo honwynt genhedl:Ac na bytho byth (meddant hwy)am Israel mwy mor chwedl.

5 Ymgynghorasant bawb ynghyd,ac yn un fryd i’th erbyn,

6 Edom, Ismael, Moab blaid,a’r holl Hagariaid cyndyn.

7 Gebal: Ammon: Amalechiaid,Philistiaid a gwyr Tirus:

8 Assur, yn gydfraich â phlant Lot,fal dyna gnot maleisus.

9 Tâl dithau adref yn y man,megis i Madian greulon,I Sisera, ne’i Jabin swrth,a laddwyd wrth lan Cizon.

10 Yn Endor gynt bu laddfa fawr,ar hyd y llawr ar wasgar:Gwna honynt hwythau laddfa ail,a’i cyrph yn dail i’r ddaiar.

11 Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,ac Oreb yr un diwedd:A'i tywysogion fel Zeba,a Salmunna i orwedd.

12 Dwedent y mynnent yn eu bywgysegrfa Duw i’w meddiant:

13 Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,Dyna yr hynt a gaffant.

14 Fal y llysg y tân bob pren crin,a’r fflam yr eithin mynydd:

15 Felly â’th ’storm, ymlid hwy’n gyntnâ dychryn corwynt efrydd.

16 Llanw eu tâl’ o warth a chwys,ceisiant ar frys yr Arglwydd.

17 Ac yn dragwyddol iddynt bydd,gywilydd, mefl, a gwradwydd.

18 Difether hwynt: gwyped dyn byw,mai d’enw di yw Jehofah:Ac mai ti unic Dduw sydd ary ddaiar yn oruchaf.