1 Clyw di fugail i Israel,sy’n arwain fel y defaidHil Jagof, a llewycha di,a’ steddi ar Gerubiaid.
2 Fel y gwelo Ephraim hyn,Beniamin a Manasses.Cyfod, cymorth a gwared ni,o’th fawr ddaioni cynnes.
3 Llewycha d’wyneb, dychwel ni,Duw, di a’n cedwi’n gyflym:
4 Duw y lluoedd, clyw ein gweddi,pa hyd y sorri wrthym?
5 Llewa’i bara, drwy wylo yn dost,a wnaethost di i’r eiddod:A rhoi iddynt ddagrau bob awr,drwy fesur mawr yn ddiod.
6 Duw i’n gelynion o bob parthrhoist ni yn warth i’n gwatwar:
7 Llewycha d’wyneb, dychwel ni,felly i’n cedwi’n gynnar.
8 Dugost o’r Aipht winwydden ir,rhoist iddi dir i dyfu:A’r holl genhedloedd o bob man,troist allan cyn ei phlannu.
9 Arloesaist y tir o’i blaen hi,a pheraist iddi wreiddio:
10 Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawrfel cedrwydd mawr yn brigo.
11 A’i hiraidd frig ystyn yr oeddhyd foroedd ac afonydd:
12 Pam y rhwygaist gae’r fâth ber lwyn,i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,pan oedd hi’n llawn ffrwyth arni:
13 A’r baedd o’r coed yn tirio’i llawr,a’r bwystfil mawr iw phori.
14 O Dduw y lluoedd, edrych, gwyl,a dychwel i ’mgledduY winllan hon a blennaist di,â’th law, a’i rhoddi ’dyfu.
15 Lle cadarnheist i ti dy hun,dy brif blanhigyn dedwydd:
16 Llygrwyd â’r cledd, a’r tân yn faith,a hyn o waith dy gerydd.
17 I gryfhau gwr dy ddehau law,boed drostaw dy fraich nerthol,Hwn a siccrheist i ti dy hun,sef dros fab dyn dewisol.
18 Tros hwn tra rhoddych di dy lawoddiwrthaw ni ddychwelwn:O Dduw, dadebra, bywha ni,ar d’enw di y galwn.
19 A dadymchwel nyni i fyw,o Arglwydd Dduw y lluoedd:Tywynna arnom d’wyneb-pryd,ni a gawn iechyd bythoedd.