Salm 105 SC

SALM CV

Confitemini Domino.

Mae fe yn canmol daioni Duw, am ei dewis hwy yn bobl iddo, gan wneuthur iddynt ddaioni er mwyn ei addewid.

1 Clodfored pawb yr Arglwydd nef,ar ei enw ef y gelwch:A’i weithredoedd ymmysc pobloeddyn gyhoedd a fynegwch.

2 Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,a’i ddidwn ryfeddodau.

3 Y rhai a gais ei enw, (y Sant)llawenant yn eu c’lonnau.

4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth mawr,a’i fodd bob awr yn rhadlon,

5 Cofiwch ei holl ryfeddodau,a barn ei enau cyfion.

6 O hâd Abraham ei wâs fo,o feibion Jaco’r ethol:

7 Ef yw’n Duw, a’i farn ef aethdros holl diriogaeth fydol.

8 Bob amser cofiodd ei gyn-grair,ei air, a’i rwym ammodau

9 Ag Abraham, Isaac, a’i hil,a mil o genedlaethau.

10 Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,ac yn rwym greddf dragwyddol.

11 Ac i Israel y rhoes lânwlâd Canan yn gartrefol.

12 Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,a hwy’n ddieithriaid ynddi:

13 Ac yn rhodio o’r wlâd i’r llall,yn dioddef gwall a chyni:

14 Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:o’r achos hyn brenhinoeddA geryddodd ef yn eu plaid:a’i air a gaid yn gyhoedd.

15 A’m eneiniog na chyffyrddwch:na ddrygwch fy mrhophwydi.

16 Galwodd am newyn ar y tir,yn wir dug fara ’honi.

17 O flaen ei blant y gyrrodd râs,Joseph yn wâs a werthwyd.

18 Ar ei draed y rhoed hayarn tynn,mewn gefyn y cystuddiwyd.

19 Gwisgodd y gefyn hyd y byw,nes i air Duw amseru:Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,a phrifiad er ei garu.

20 Yna y gyrrwyd iw gyrchu fogar bron hen Pharo frenin:Ac y gollyngwyd ef ar lled,o’i gam gaethiwed ryflin.

21 O hyn ei osod ef a wnaethyn bennaeth ar ei deuly,Ac o’i holl gyfoeth ef a’i wlâd,ys da fawr-hâd oedd hynny,

22 I ddyscu’i reolwyr ei lys,ei ’wllys a’i foddlondeb:I fforddio henuriaid y wlâd,yn wastad mewb doethineb.

23 Daeth Israel i’r Aipht tir Cham,lle’r oedd yn ddinam estron:

24 Lle llwyddodd Duw hil Jaco bachyn amlach nâ’i caseion.

25 Yna y troes ei calon gau,i lwyr gasau ei bobloedd:Iw weision ef i wneuthur twyll,a llid (nid amwyll) ydoedd.

26 Duw gyrrodd Foesen i was hen,ac Aron llen dewisol.

27 Yn nhir Ham i arwyddoccauei nerth a’i wrthiau nodol.

28 Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,er hyn ni châd ufydd-dod.

29 Eu dyfroedd oll a droed yn waed,a lladd a waned eu pysgod.

30 Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,yn stefyll ei brenhinoedd:

31 Daeth ar ei air wybed a llau,yn holl fannau eu tiroedd.

32 Fe lawiodd arnynt genllysc mân,a’i tir â than a ysodd:

33 Eu gwinwydd a’i ffigyswydd mâd,a choed y wlâd a ddrylliodd.

34 Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,yn difa cnwd eu meusydd,

35 Uwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,a hyn drwy air Duw ddofydd.

36 Cyntaf-anedig pob pen llwyth,a’i blaenffrwyth ef a drawodd:Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,a’i bobl o’i râs a gadwodd:

37 Ar a’i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,o’winedd eu caseion,Heb fod ohonynt un yn wan,ac aur ac arian ddigon.

38 A llawen fu gan wyr y wlad,o’r Aipht pan gâd eu gwared.Daeth arnynt arfwyd y llaw grefa ddaeth o’r nef i wared.

39 Rhoes Duw y dydd gwmwl uwchben,fel mantell wen y toodd:A’r nos goleuodd hwynt â thân,fal hyn yn lân y twysodd.

40 Fo a roes iddynt ar y gairgig sofli-air iw bodloni:A bara, o’i orchymmyn ef,a ddaeth o’r nef iw porthi.

41 Holltodd y graig, death deifr yn llif,fel be baent brif afonydd:Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlychrhyd pob lle sych o’r gwledydd.

42 Cofio a wnaeth ei air a’i râs,i Abram ei wâs ffyddlon.

43 A thrwy fawr nerth yn rhydd o gaethy gwnaeth ei ddewisolion.

44 Tir y cenhedloedd iddynt rhoes,a’i llafur troes iw meddiant:

45 Er cadw ei air a’i gyfraith ef,rhowch hyd y nef ei foliant.