Salm 89 SC

SALM LXXXIX

Misericordias.

Dafydd yn moli Duw am ei gyfamod, ac yn achwyn wacced oedd ei dyrnas: ac yn olaf y mae efe yn gweddio am ei wared o’i flinderau, ac yn dangos byrred oes dyn.

1 Myfyriaf gerdd byth i barhau,o drugareddau’r Arglwydd:A'i wirionedd i’m genau fydd,hyd dragywydd yn ebrwydd.

2 Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,adeiledir trugaredd:I barhau byth cair yn y nefdy gadarn gref wirionedd.

3 Fal hyn (o Dduw) attebaist ym’,mi a wneuthym rwym gan dynguI Ddafydd f’etholedig wâs,a’r gair o’m grâs yn tarddu.

4 Fal hyn sicrhâf dy hâd di byth,a gwnaf wehelyth drefniad.I’th gadarn faingc o oed i oed,mi a rof bob troed yn wastad.

5 Am hyn y sicrwyd trag’wyddawl:y nef o fawl dy wyrthiau:Yngorsedd sainct, ynghyrchfa hedd,am bur wirionedd d’eiriau.

6 Pwy sydd cystal â’n harglwydd cu,pe chwilid llu’r wybrennau?Ymysg Angylion pwy mal Ion,sef ymhlith meibion duwiau?

7 Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,Duw o’r nef sydd ofnadwy:A thrwy’r holl fyd o’n hamgylch ni,i ofni sydd ddyladwy.

8 Pwy sydd debig i ti Dduw byw,o Arglwydd Dduw y lluoedd?Yn gadarn Ior, a’th wir i’th gylch,o amgylch yr holl nefoedd.

9 Ti a ostyngi y mor mawr,a’r don hyd lawr yn ystig:

10 A nerth dy fraich curi dy gâs,yr Aipht, fal gwâs lluddedig,

11 Eiddod nef a daiar i gyd,seiliaist y byd a’i lanw:

12 Gogledd, deau, Tabor, Hermon,sy dirion yn dy enw.

13 I’th fraich mae grym’, mae nerth i’th law,a’th gref ddeheulaw codi:

14 Nawdd a barn yw dy orsedd hir,a nawdd a gwir a geri.

15 Eu gwnfyd i’r holl bobl a fydd,a fo’i llawenydd ynod:Ac yn llewych dy wyneb glâny rhodian i gyfarfod.

16 Yn d’unig enw di y cânt,fawl a gogoniant beunydd.Yn dy gyfiownder codi’ a wnânt,ac felly byddant ddedwydd.

17 Cans ti wyd gryfder eu nerth hwy,lle y caffent fwy o dycciant:Dydi a ddarchefi eu cyrn,ac felly cedyrn fyddant.

18 Cans o’r Arglwydd a’i ddaioni,y daw i ni amddiffin:O Sanct Israel drwy ei law,oddiyno daw ein brenin.

19 I’th sanct y rhoist gynt wybodaeth,drwy weledigaeth nefol:Gosodais gymorth ar gryf gun,derchefais un dewisol.

20 Cefais (eneiniais ef yn ol)fy ngwâs dewisol Dafydd

21 Ag olew sanct: Braich a llaw gref,rhoist gydag ef yn llywydd.

22 Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,na’i ddrygu un mab enwir:

23 O’i flaen y coetha’i elynion,a’i holl gaseion dihir.

24 Fy ngwirionedd, a’m trugaredd,rhof fi trwy gariad iddo,Ac yn fy enw fi ’yn ddi orn,dyrchefir ei gorn efo.

25 Gosodaf ei law ar y mor,ac o’r goror bwygilydd:A gosodaf ei law ddeau,hyd terfynau’r afonydd.

26 Ef a weddia arnaf fiiw galedi, gan ddwedyd,Ti yw fy nhad fy Nuw, fy ngharn,yn gadarn o’m ieuenctyd.

27 Minnau gwnaf yntau im yn fab,yn gynfab ac etifedd:Ar frenhinoedd y ddaiar las,yn uwch ei ras a’i fowredd.

28 A chadwaf iddo (yr un wedd)drugaredd yn dragwyddol:A’m cyfammod iddo yn llawn,yn ffyddlawn, ac yn nerthol.

29 Gosodaf hefyd byth i’w had,nerth a mawrhâd uwch bydoeddA’i orseddfainc ef i barhau,un wedd a dyddiau’r nefoedd.

30 Ond os ei blant ef (drwy afrol)nid ânt yn ol fy nghyfraith,Os hwy ni rodiant, gan barhau,i’m beirn a’m llwybrau perffaith,

31 Os fy neddfau a halogant,ni chadwant fy holl eirchion,

32 Yna ymwelaf a’i cam gwrs,â gwiail scwrs, neu goedffon.

33 Ond ni thorraf ag ef un nod,o’m hammod a’m trugaredd:Ac ni byddaf fi ddim yn ol,o’m ystyriol wirionedd.

34 Ni thorraf fy nghyfammod glân,a ddaeth allan o’m genau,Ac ni newidiaf air o’m llw,mi a rois hwnnw’n ddiau.

35 Yn fy sancteiddrwydd tyngais im’na phallwn ddim i Ddafydd,

36 Bydd ei had a’i drwn, yn ddi draulo’m blaen fel haul tragywydd.

37 Yn dragywydd y siccrheir ef,fel cwrs (is nef) planedauHaul neu leuad, felly y byddei gwrs tragywydd yntau.

38 Ond ti a’n ffieiddiaist ar fyrr,ac yn ddiystyr lidiogDi a gyffroaist yn dra blin,wrth dy frenin eneiniog.

39 Diddymaist di dy air i’th was,a’th râs, a’th addewidion:Ac a’i halogaist ef yn fawr,gan daflu’i lawr ei goron.

40 A drylliaist ei fagwyrydd ef,a’i gaer gref rhoi’st yn adwy.

41 Yn egored felly y maeyn brae i bawb sy’n tramwy.

42 Iw gym’dogion gwarthrudd yw ef,a than law gref ei elyn:A llawen iawn y codent floedd,bob rhai a oedd i’w erbyn.

43 Troist hefyd fin ei gleddau ef,a’i law oedd gref a blygaist:

44 Darfu ei lendid ef a’i wawr,a’i drŵn i’r llawr a fwriaist.

45 Pryd ei ieuenctyd heibio’r aeth,a thi a’i gwnaeth cyn fyrred:A bwriaist drosto wradwydd mawr,o nen hyd lawr y torred.

46 Pa hyd fy Nuw y byddi’ nghudd?ai byth, fy llywydd nefol?A lysg dy lid ti fel y tânyn gyfan yn dragwyddol?

47 O cofia f’oes ei bod yn fyrr,ai’n ofer gynt y gwnaethostHoll blant dynion? o dal dy law,ac yn’ ni ddaw yn rhydost.

48 Pa wr y sydd a’i oes dan sel,na ddel marwolaeth atto?Pwy a all ddiangc, ac ni ddawy caib a’r rhaw i’w guddio?

49 O mae dy nodded Arglwydd gynt:mae helynt dy drugaredd:Mae dy lw, o ystyriol ffydd,i Ddafydd i’th wirionedd?

50 Cofia Arglwydd yn wradwydd llym’lle’r ydym ni, dy weision.Yr hwn a dawdd i’m monwes i,gan ffrost y Cowri mowrion.

51 Yr hwn warth ’r oedd d’elynion diyt’ yn ei roddi’n eidiog,(Fy Arglwydd Dduw) a’r un fyrrhâdi droediad dy eneiniog.

52 Moler yr Arglwydd byth: Amen,a byth Amen, hyd fytho.Moler yr Arglwydd byth: Amen,a byth Amen, hyd fytho.