Salm 73 SC

SALM LXXIII

Quam bonus Deus.

Dafydd yn dysgu i ddynion nad anghysurent er gweled llwyddiaut yr enwir, neu aflwyddiant y cyfion, yn y byd hwn, drwy ddangos mor ddisymmwth y diflanna y drwg, a maint gwobr y daionus.

1 Ys da yw Duw i Israel,wrth bawb a wnel yn union:

2 Minnau llithrais, braidd na syrthiais,swrth-wael fu f’amcanion.

3 Cans cynfigennais wrth y ffwl,ar dyn annuwiol dihir,Braidd na chwympais pan y gwelaiseu hedd a’i golud enwir.

4 Can nad oedd arnynt rwymau caethi gael marwolaeth ddynol,Lle maent yn byw yn heini hyf,yn iraidd gryf ddigonol.

5 Ac ni ddoe arnynt lafur blinhyd y bawn i’n eu deall,Na dim dialedd, na dim gwyn,fel y doe ar ddyn arall.

6 Am hynny syth maent yn ymddwyn,fel o fewn cadwyn balchder:A gwisgant am danynt yn dynn(megis dillad n) drowsder.

7 A’i llygaid hwynthwy wrth dewhaudoent yn folglymmau drosodd:A’i golud hwy, er hyn o wyn,uwch meddwl dyn a dyfodd.

8 Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,a bostio hyn ar wasgar,

9 Egori safn at wybren fry,a thafod cry’ drwy’r ddaear.

10 Am hyn rhai o’i bobl ef â chwanta ymddychwelant yma,Yn gweled y dwfr yn loyw lâna thybio y cân eu gwala.

11 Cans ymresymmant hwn yn fyw,pa’m? ydyw Duw yn canfodPwy sydd yn ddrwg, a phwy sy’n dda?ydyw’r gorucha’n gwybod?

12 Wele y drygddyn mwya’i chwantcaiff fwyaf llwyddiant gwastad:Yn casglu golud a mawr dda,hwnnw sydd fwya’i godiad.

13 Ofer iawn fu i mi warhau,a llwyr lanhau fy nghalon:Golchi fy nwylo, caru gwir,a bod yn hir yn gyfion:

14 Cael fy maeddu ar hyd y dydd:ond trwstan fydd uniondeb,Os y borau, ac os pryd nawn,myfi a gawn wrthwyneb.

15 Hyn os dwedwn, a feddyliwn,o ryw feddalaidd ammau,Wele, a’th blant di y gwnawn gam,i ddwyn un llam a minnau.

16 Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,o nerth fy synwyr ddynol,Hynny i’m golwg i oedd flin,nes cael rhyw rin ysprydol.

17 Ond pan euthym i gysegr Duw,lle cefais amryw olau,Yna deellais i pa weddy bydd eu diwedd hwythau.

18 Gwybum i ti eu gosod hwy,lle caent lam mwy’n y diwedd,Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,anialwch anghyfannedd:

19 Ond gwedi dodaist iddynt wth,disymmwth y pallasant,Mynd o’r byd heb na lliw na llun,o’i hofn eu hun darfyddant.

20 Fel breyddwyd pan ddihunai un,y gwnai di iddun f’Arglwydd,O’r newid hon y caiff fy nghâs,drwy yr holl ddinas wradwydd.

21 Bum i ddig wrthyf fi fy hun,ac oerni fu’n fy nghalon.

22 Nas deallaswn hyn yn gynt,bum ffol un hynt ac eidion.

23 Er hyn etto bum gydâ thi,lle i’m twysi yn ddilysiant

24 Wrth fy llaw ddeau: wedi hynfy nerbyn i gogoniant.

25 Pa’m? pwy (o Dduw) sydd gennyf fiond tydi yn y nefoedd?Dim ni ddymunwn gydâ thi,wrth weini daiar leoedd.

26 Fy nghalon i, a’m nerth, a’m cnawd,y sydd mewn palldawd beunydd,Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,a’m tarian yn dragywydd.

27 A elo ymhell oddiwrthyd ti,y rhei’ni gwnaent yn ddiffaith:Ac a buteiniant rhagot ti,y rhei’ni torrir ymaith.

28 Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,fy ngobaith yw i’m calon

29 Y traethaf fi ei nerth, a’i wyrth,o fewn dy byrth, merch Sion.