Salm 69 SC

SALM LXIX

Saluum me fac.

Serch Dafydd, a’i flinderau: creulondeb ei elynion, ei gysur, a’i glod i Dduw: y mae efe hefyd yn annog pob creadur i foli Duw, ac yn prophwydo am dyrnas Christ: ac yn y psalm hon y mae Dafydd yn arwydd o Grist.

1 Achub fi Dduw (y gwr a’m gwnaeth)tros f’enaid daeth llif-ddyfr-loes,

2 Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,heb le i ’mddiffyn f’einioes.O’r dyfnder daethym fal ar fawdd,a’r ffrwd a lifawdd uchod:

3 Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,â’m llygaid pellais ganfod.

4 A hyn wrth ddisgwyl Duw a’i câs,wele fy nghâs yn amlachNâ’r gwalld ar ben fy nghoppa fry,a’r trowsion sy’n gadarnach.Y rhai celwyddog, taerion ynt,rhois iddynt beth ni chefais.

5 Adwaenost (Dduw) f’ynfydrwydd mau,a’m beiau fi ni chuddiais.

6 O’m plegid i dim gwarth ni chânty rhai a goeliant arnad,Na âd (Dduw’r lluoedd) fefl na thraisi’r rhai a ymgais attad.

7 (Duw Israel) sef er dy fwyn,yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb:A thrwy gywilydd ymarhois,mewn chwys y tois fy wyneb.

8 I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)i blant fy mam fel estron.

9 A’m fod fy serch a’m sel i’th dyi’m hysu hyd fy nghalon.Cans cabl y rhai a’th gablant diar f’ucha i mae’n disgyn.

10 Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,ynt warth i gyd i’m herbyn.

11 A phan wisgwn i liain sach,bum ddiystyrach lawer,

12 Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,i’r meddw yn wawd iw harfer.

13 Ond f’Arglwydd Dduw, gwnaf attad tify ngweddi yn amserol.O gwrando fi i’th wirfawr hedd,ac i’th wirionedd grasol.

14 Duw, gwared fi, gwna fi’n rhyddo’r dom y sydd i’m suddo,Sef caseion, dyfroedd dyfnion,a mi nid ofnaf gyffro.

15 Na lifed dwfr drosof yn ffrwd,na’m llynced amrwd ddyfnder,Na chaued pydew arnaf chwaith,mo’i safn diffaith ysceler.

16 Gwrando fi bellach Arglwydd Dduw,cans da yw dy drugaredd,Yn amlder dy dosturi mawredrych i lawr rhag trowsedd.

17 O’m cyfyngder oddiwrth dy wâsna chudd mo râs dy wyneb,Rwyf yn gweddio yn fy ngloes,Duw bryssia moes y’m atteb.

18 Neshâ at f’enaid Arglwydd mau,er fy ryddhau a’m gwared,Moes ymddiffyn rhag cael o hongan fy ngelynion niwed,

19 Duw di a weli o bob parthfy ngwardwydd, gwarth, a’m cwilyddO herwydd rhodio gar dy fronmae fy ngelynion beunydd.

20 Mewn gorthrwn ofid yr wyf fia gwarth yn torri’ nghalon:Disgwyl cymhorthwyr, ni ddoe neb,ni chawn gysurdeb tirion.

21 Bustl a roesan yn fwyd i mi,finegr i dorri syched.

22 Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,a’i llwydd yn dramgwydd bydded.

23 Ar eu llygaid dallineb doed,iw llwynau boed crynfeydd.

24 Tywallt arnynt dy ddig a’th lid,doed iddynt ofid beunyd.

25 Boed eu palasau’n wâg heb wedd,ac anghyfannedd iddyn,Na allo neb na dydd na nosmo’r aros yn eu tyddyn.

26 Cans yr hwn a darawsyd timae’ rhei’ni yn ei erlyd:A’r doluriau y sydd o’th friwy maent iw hedliw hefyd.

27 Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,na ddont mwy i’th gyfiownder

28 Ymaith o lyfr y bywyd llawn,o fysg y cyfiawn tynner.

29 Finnau pan fwyf odidus wan,a phan fwyf druan hefyd,Dy iechydwriaeth di (o Dduw)eilchwyl i fyw a’m cyfyd.

30 Moliannaf d’enw Dduw ar gân,fal dyma f’amcan innau.

31 A hyn fydd gwell gan Dduw deyrnnag ych â chyrn a charnau.

32 A phob truan, pan weler hyn,a ennyn o lawenydd:A’ch calon chwi sy’n ceisio Duwcyfyd i fyw o newydd.

33 Duw gwrendy dlawd,ni ddirmyg lef oi gaethwas ef sy fethiant.

34 Nef, a daiar, a mor, a hyna ymlysg ynthyn, moliant.

35 Cans Duw a gedw Sion deg,a threfna’n chwaneg Juda:Adeilada ddinesydd hon,i ddynion yn breswylfa.

36 Fe ei weision ef a’i hil,a’i heppil, a’i meddiannant:A’r rhai a hoffa ei enw fo,yn honno a breswyliant.