1 Yr Arglwydd piau’r ddaiar lawr,a’i llownder mawr sy’n eiddo:Yr Arglwydd biau yr holl fyd,a’r bobl i gyd sydd ynddo.
2 Cans fo roes ei sail hi a’i gweddyn rhyfedd uwch y moroedd:Ac a’i gosododd hi yn lânyn drigfan uwch llif-ddyfroedd.
3 Er hyn: pwy a ddringa yn hyi gyssegr fry yr Arglwydd?A phwy a saif, a theilwng wedd,yngorsedd ei sancteiddrwydd?
4 Dyn a llaw lân, a meddwl da,ac yn ddidraha ei enaid,Diorwag, ac ni roes un troer twyllo’i gyfneseifiaid.
5 Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlithei raslawn fendith helaeth,A chyfiawnder i bob cyfrywgan Dduw yr iechydwriaeth.
6 Hon sy gan Dduw’n genhedlaeth gref,a’i ceisiant ef yn effro,A geisiant d’wyneb, dyma eu maeth,sef gwir genhedlaeth Iago.
7 Derchefwch chwi byrth eich pennau,a chwithau ddorau bythol,Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,sef pen bri gogoneddol.
8 Pwy yw’r brenin hwn gogonedd?Arglwydd rhyfedd ei allu:Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,a chadarn i ryfelu.
9 Derchefwch chwi byrth ych pennau,ehengwch ddorau bythol:Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,teyrn o fri gogonol.
10 Pwy meddwch ydyw’r brenin hwn,a gofiwn ei ogoniant?Ior y lluoedd yw, brenin hedd,a gogonedd, a ffyniant.