1 Addewais gadw ’ngenau’n gu,rhag pechu yn fy ngeiriau,
2 Y dyn annuwiol lle y bobwriedais ffrwyno ’ngenau.
3 Tewais, tewais fel y dyn mud,rhag dwedud peth daionus,Pan y cyffroais o hir ddal,ymattal oedd ofidus.
4 Yn fy nghalon y cododd gwres:a’m mynwes o’m myfyrdod,Fel y tân ynynnu a wnaeth,a rhydd yr aeth fy’ nhafod.
5 O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)pa amser y diweddafRifedi ’nyddiau: a pha hydo fewn y byd y byddaf.
6 Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,i’m heinioes daw byr ddiwedd.Diau yn d’ olwg di (o Dduw)fod pob dyn byw yn wagedd.
7 Sef mewn cysgod y rhodia gwr,dan gasglu pentwr ofer,Odid a wyr wrth dyrru dapwy a’i mwynha mewn amser.
8 Beth bellach a obeithiaf fi,Duw rhois i ti fy nghalon.
9 Tyn fi o’m camweddau yn rhydd,nâd fi’n wradwydd i ffolion.
10 Yn fudan gwael yr aethym i,a hyn tydi a’i parodd:
11 O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,sef pwys dy ddwrn a’m briwodd.
12 Pan gosbech di am bechod wrfo wywa’n siwr ei fowredd,Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hynnad yw pob dyn ond gwagedd.
13 Clyw fy ngweddi o Dduw o’r nef,a’m llef: a gwyl fy nagrauDy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)ac felly ’roedd fy nheidiau.
14 O paid a mi gad ym gryfhau,cyn darfod dyddiau ’mywyd.
15 O gwna â mi sy’ mron fy medddrugaredd a syberwyd.