1 O’r dyfnder gelwais arnat Ion,
2 O Arglwydd tirion gostwngDy glust, ystyria y llais mau,clyw fy ngweddiau teilwng.
3 Duw, pwy a saif yn d’wyneb di,os creffi ar anwiredd?
4 Ond fel i’th ofner di yn iawn,yr wyd yn llawn trugaredd.
5 Disgwyliais f’Arglwydd, wrth fy rhaid,disgwyliodd f’enaid arno.Rhois fy holl obaith yn ei air,
6 f’enaid a gair yn effro.Ac am yr Arglwydd gwilio’y bydd,fwy nâ gwiliedydd difri:A edrych blygain bob pen awr,a welo’r wawr yn codi.
7 Un wedd disgwylied Israel,yn ddirgel am yr Arglwydd,Cans mae nawdd gyda’r Arglwydd nef,mae yntho ef rywiogrwydd.Ei drugareddau ânt ar lled,fe rydd ymward ini.
8 Fe weryd Israel: fal hyn,fo’i tyn o’i holl ddrygioni.