1 Moliannu’r Arglwydd da iawn yw,a chyfarch Duw yn bennaf:A chanu i’th enw di fawl,a’th ganmawl (y Goruchaf.)
2 Y borau am dy drugaredd,a’th wirionedd son y nos,
3 Ar ddectant, nabyl, a thelyn,myfyrio hyn a’i ddangos.
4 Sef drwy dy weithred llawen wyf,ynnyn nwyf yn fy Nuw Naf:Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,beunydd y gorfoleddaf.
5 Dy weithredoedd ond mawrion ynt?
6 Dy helynt nis gwyr anghall:Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,hyn nis gwyr ynfyd ddeall.
7 Pan flodeuo yr enwir ddyn,megis llyseuyn iraidd,Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,Duw yno rhaid eu diwraidd.Y drwg flagur uchel yr ânt,a hwy a syrthiant beunydd:
8 Tithau yr Arglwydd yn ddigel,wyt uchel yn dragywydd.
9 O Arglwydd wele d’elynion,dy gaseion difethir:A holl weithredwyr trais a cham,yn ddinam a wasgerir.
10 Tydi a dderchefi fy nghorn,fel yr unicorn perffaith.Hefyd â gwerthfawr olew ir,i’m taenellir i eilwaith.
11 Fy llygaid a welant hefyd,fy ngwynfyd o’m gelynion.A’m clustiau a glywant ar frysf’ewyllys am ddrwg ddynion.
12 Y cyfion blodeua i’r nen,fal y balmwydden union,Cynnyddu yn iraidd y bydd,fel cedrwydd yn Libanon.
13 Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,yn goedwyrdd byw y tyfant,Ac ynghynteddau ein Duw niy rhei’ni a flodeuant.
14 A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint,yn amser henaint etto,Tirfion, iraidd, a phrofadwya fyddant hwy yn hilio.
15 I ddangos nad traws, ac nad camyw f’Arglwydd a’m cadernyd,Ac nad oes yntho na chamwedd,na dim anwiredd hefyd.