1 Molwch yr Arglwydd, cans da yw,moliennwch Dduw y llywydd,Cans ei drugaredd oddi fry,a bery yn dragywydd.
2 Molwch chwi Dduw y duwiau’n rhwydd
3 ac Arglwydd yr arglwydi,
4 Hwn unic a wnaeth wrthiau mawr,drwy ei ddirfawr ddaioni.
5 Gwaeth â’i ddoethineb nef uwchben,
6 a’r ddaiaren a’r dyfredd,Y rhai yw prif sylwedd y byd,ac i gyd o’i drugaredd.Molwch yr Arglwydd (cans da yw)moliennwch Dduw y llywydd,Cans ei drugaredd oddi fry,a bery yn dragywydd.
7 R’ hwn a wnaeth oleuadau mawr,o’r nef hyd lawr a’i fowredd.
8-9 Haul y dydd, â’r lleuad y nos,i ddangos ei drugaredd.
10 ’Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig,a’r blaen-anedig ynthi,
11 Ac a ddug Israel i’r daith,ac ymmaith o’i holl gyni.
12 A hyn drwy law gref a braich hir,o rym ei wir ogonedd:
13 A hollti’r mor coch yn ddwy ran,o anian ei drugaredd.
14 Dug Israel i’r lan yn wych,fel dyna ddrych gorfoledd:
15 Yscyttian Pharo, a’i holl lu,a hyn a fu’i drugaredd.Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.
16 A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,drwy wledydd dyrys anian:
17 Taro brenhinoedd er eu mwyn,ac felly eu dwyn hwy allan.
18 Lladd llawer brenin cadarn llon,
19 sef Sehon yr Amoriaid:
20 Ac Og o Basan yn un wedd,o’i fawr drugaredd dibaid.
21 A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,eu rhoi yn fywyd bydol
22 I Israel ei was a wnaeth,yn etifeddiaeth nerthol.Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.
23 Hwn i’n cystudd a’n cofiodd ni,o’i fawr ddaioni tirion.
24 Ac a’n hachubodd yn ddi swrthoddiwrth ein holl elynion.
25 Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd,yn ddidlawd o’i drugaredd.
26 Clodforwch Dduw brenin y nef,rhowch iddo ei ogonedd.
27 Molwch Arglwydd yr arglwyddi,uwchben pob rhi o fowredd,Duw’r duwiau, Ior uwchben pob Ion,a ffynnon y drugaredd.Molwch yr Arglwydd cans da yw, molienwch Dduw y llywydd, &c.