Salm 19 SC

SALM XIX

Cali enarrant.

Dangos gogoniant Duw yn eu greaduriaid, a’i gyfraith, a’i râs.

1 Datgan y nefoedd fowredd Duw,yr unrhyw gwna’r ffurfafen.

2 Y dydd i ddydd, a’r nos i nos,sy’n dangos cwrs yr wybren.

3 Er nad oes ganthynt air nac iaith,da y dywaid gwaith Duw lywydd,Diau nad oes na mor, na thir,na chlywir eu lleferydd.

4 Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,a’i geiriau hyd eithafoedd.Yr haul teg a’i gwmpas sydd bell,a’i babell yn y nefoedd.

5 O’r hon y cyfyd ef yn rhod,fel priod o’i orweddfa.Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawrfel cawr yn rhedeg gyrfa.

6 O eithaf hyd eithafoedd nef,y mae ef a’i amgylchiad,Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)ymguddio o’i oleuad.

7 Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawna dry i’r iawn yr enaid,Felly rhydd ei wir dystiolaethwybodaeth i’r ffyddloniaid.

8 Deddfau Duw Ion ydynt union,llawenant galon ddiddrwg,A’i orchymyn sydd bur diaua rydd olau i’r golwg.

9 Ofn yr Arglwydd sydd lân:ac byth y pery’n ddilyth hyfryd,Barnau’r Arglwydd ynt yn wir llawni gyd, a chyfiawn hefyd.

10 Mwy deisyfedig ynt nac aur,ie na choethaur lawer,Melysach hefyd ynt na’r mel,sef dagrau terfel tyner.

11 Cans ynthynt dysgir fi, dy wâsar addas a’r unionder:A’r holl gamp sy o’i cadw nhwy,felly cair gobrwy lawer.

12 Er hynny i gyd, pwy a alliawn ddeall ei gamweddau?O gwna fi’n lân, (a bydd ddiddig)o’m holl guddiedig feiau.

13 Duw attal feiau rhyfig, chwant,na thyfant ar fy ngwarthaf:Yno byddaf wedi ’nglanhauo’m holl bechodau mwyaf.

14 O Arglwydd, fy mhrynwr a’m nerth,bydded yn brydferth gennyd.Fy ’madrodd, pan ddel gar dy fron,a’m myfyr calon hefyd.