Salm 37 SC

SALM XXXVII

Noli emulari.

Pob peth a roddir i’r nêb a garo ac a ofno Dduw, ond er i’r annuwiol lwyddo dros amser, etto hwy a ddarfyddant.

1 Na ddala ddrygdyb yn dy ben,nac o gynfigen ronyn,Er llwyddo’r enwir, a wnai gam:cai weled llam yn canlyn.

2 Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,neu lysiau diflas gwywon:A hwy a grinant yn ddilwydd,a hynny’n ebrwydd ddigon.

3 Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,gobeithia yr hyn gorau:Bydd ymarhous yn y tir,di a borthir yn ddiau.

4 Bydd di gysurus yn dy Dduw,di a gei bob gwiw ddymuniad:

5 Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilysfe rydd d’ewyllys attad.

6 Cred yntho ef, fo’th ddwg i’r lann,myn allan dy gyfiownder:Mor olau a’r haul hanner dydd,fal hynny bydd d’eglurder.

7 Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,a heb ymddigiaw gronyn:Er llwyddo’i ddrygddyn ei fawr fai,yr hwn a wnai yn gyndyn.

8 Paid â’th ddig, na ofidia chwaith:gad ymaith wyllt gynddaredd:Rhag i hynny dyfu i fod,yn bechod yn y diwedd.

9 Oherwydd hyn, disgwyl yr Ion,gwyl ddiwedd dynion diffaith:A disgwyl ef: meddianna’r tir,a’r drwg f’oi torrir ymaith.

10 Goddef y drygddyn dros dro bâch,ni welir mwyach honaw,Ti a gai weled y lle y bu,heb ddim yn ffynnu ganthaw.

11 Ond y rhai ufydd a hawddgâr,y ddaiar a feddiannant:Ar rhei’ni a thagnhefedd hir,diddenir yn eu meddiant.

12 Bwriada’r drygddyn o’i chwerw ddaint,ar ddrygu braint cyfiownddyn:

13 Duw yn ei watwar yntau a fydd,sy’n gweled dydd ei derfyn:

14 Ynnylu bwa, tynnu cledd,yw trowsedd yr annuwiol,Er llâdd y truan: fel dydd brawd,i’r tlawd a’r defosionol.

15 Ei fwa torrir yn ddellt mân,a’i gledd a â’n ei galon:

16 Mawr yw golud yr ysceler,ond gwell prinder y cyfion.

17 Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,tyr freichiau’r rhai annuwiol,Ac ef a gynnail yn ddi ddig,y cyfion, ystig, gweddol.

18 Sef ef edwyn Duw ddyddiau,a gwaith pob rhai o berffaith helynt:Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,deg etifeddiaeth iddynt.

19 Efe a’i ceidw hwynt i gyd,na chânt ar ddrygfyd wradwydd:Amser newyn hwyntwy a gânt,o borthiant ddigonolrwydd.

20 Y rhai traws enwir, heb ddim cwyn,fel brasder wyn a doddant:Caseion Duw fydd dynion drwg,hwy gyda’r mwg diflannant.

21 Y gwr annuwiol a fyn ddwynyn echwyn, byth ni thalai:A’r gwr cyfion trugarog fydd,ac a rydd, nis gommeddai.

22 Sawl a fendigo Duw (yn wir)y tir a etifeddan:A’r rhai a felldithio, o’r tiri gyd a fwrir allan.

23 Duw a fforddia, ac a hoffa,hyffordd y gwr calonnog:

24 Er ei gwympo efe ni friw,fo’i deil llaw Dduw ’n sefydlog.

25 Aethym i bellach yn wr hen,bum fachgen ’rwy’n cydnabod:Ni welais adu hâd gwr da,na cheisio’i bara ’ngherdod.

26 Echwyn a benthyg cair bob dydd,trugarog fydd y cyfion:A'i hâd ef drwy y nefol wlith,a gaiff o’i fendith ddigon.

27 Arswyda ddrwg, a gwna di dda,a chyfanedda rhag llaw:

28 Cans Duw a gâr y farn ddidwn,ninnau a roddwn arnaw.Nid ymedy efe â’i Saint,ceidw heb haint y rhei’ni:Ond hâd yr annuwiolion gaua ddont i angau difri.

29 Y ddaear caiff y cyfion gwyl,lle y preswyl byth mewn iawndeb:

30 A’i enau mynaig wybodaeth,a’i dafod traeth ’ddoethineb.

31 Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,a’i draed (gan hon) ni lithrant:

32 Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,ond ni chaiff yna ffyniant.

33 Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,nac er ei falais lidiog:)Y gwirion yn ei waedlyd law,i hwn ni ddaw barn euog.

34 Gobeithia yn yr Arglwydd tau,a chadw ei llwybrau’n gywir:Cei feddiannu, cei uwch o radd,a gweled lladd yr enwir.

35 Gwelais enwir yn llym ei big,a’i frig fel gwyrddbren lawri:

36 Chwilais, a cheifiais yr ail tro,’r oedd efo wedi colli.

37 Ystyria hefyd y gwr pur,ac edrych du’r cyfiownedd:Di a gei weled cyfryw ddyn,ma’i derfyn sydd tangnhefedd.

38 A gwyl y rhai drwy drais sy’n byw,ynghyd i ddistryw cwympant:Fe a ddiwreiddir plant y fall,i ddiwedd gwall, a methiant.

39 Iechyd y cyfion sy o Dduw Ner,a’i nerth mewn amser cyffro:

40 Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,a hyn am gredu yntho.