Salm 65 SC

SALM LXV

Te decet hymnus.

Y ffyddloniaid yn diolch i Dduw, am eu dewis a’i llywodraethu hwy, ac am ei fendithion i’r ddaiar.

1 I ti (o Dduw) y gweddai mawlyn y sancteiddiawl Sion,I ti y telir drwy holl gred,bob gwir adduned calon.

2 Pawb sydd yn pwyso attad ti,a wrendy weddi dostur,Ac attad ti y daw pob cnawd,er mwyn gollwngdawd llafur.

3 Pethau trowsion, a geiriau mawr,myfi i’r llawr bwriasant,Ond tydi Dduw, rhoi am gamwedddrugaredd a maddeuant.

4 Dy etholedig dedwydd ywcaiff nesnes fyw i’th Babell,Trig i’th gynteddau, ac i’th lys,a’th sanctaidd weddus gangell.

5 Duw’n ceidwad attebi i nio’th ofni i’th gyfiownedd,Holl obaith wyd drwy’r ddaiar hon,a’r mor cynhyrfdon rhyfedd.

6 Hwn a siccrhâ bob uchel frynâ’i wregys yn gadernyd.

7 Hwn a ostega’r mor, a’r don,a rhuad eigion enbyd.

8 A holl breswylwyr eithaf bydsy’n ofni’ gyd d’arwyddion,I ti gan forau a chan hwyr,y canant laswyr ffyddlon.

9 Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,afon Duw llanwyd drosti,Darperaist lifddyfr rhyd ei llawriw thramawr gyfoethogi.

10 Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,a’i chwysau’r wyd iw gostwng.A’i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,iw chnwd rhoi fendith deilwng.

11 Coroni’r ydwyd ti fal hyny flwyddyn â’th ddaioni,Y ffordd hyn a’r modd (Duw fy ner)diferaist frasder arni.

12 Ef a ddifera ffrwyth dy serchar bob rhyw lannerch ddyrys,Pob mynydd sych yn uchder gwlâdo ffrwyth dy rad y dengys.

13 Drwy dy fendith y gwastad dira guddir oll â defaid,Crechwennant, canant bawb ynghyd,a’r wlâd ac ŷd ei llonaid.