Salm 91 SC

SALM XCI

Qui habitat.

Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i’r rhai a’i hofnant ac a’i carant ef, o ddiogelrwydd a gogoniant tragwyddol.

1 Y sawl a drigo, doed yn nes,yn lloches y Goruchaf,Ef a ymerys i gael bodynghysgod hwn sydd bennaf.

2 Fy holl ymddiffyn wyd a’m llwydd,wrth fy Arglwydd y dwedaf:A’m holl ymddiried tra fwy fywsydd yn fy Nuw Goruchaf.

3 Cans ef a weryd yr oes dau,oddiwrth faglau yr heliwr:A hefyd oddiwrth bla, a haint,echrysaint, ac anghyflwr.

4 Ei esgyll drosod ef a rydd,dan ei adenydd byddiYn ddiogel: a’i wiredd gredfydd gylch a bwccled itti.

5 Ni ddychryni er twrf y nos,na’r dydd o achos hedsaeth.

6 Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd,neu hanner dydd marwolaeth.

7 Wrth dy ystlys y cwympa mil,a dengmil o’th law ddeau:Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,a thi a’i gwyl yn ddiau.

8 A’th lygaid y gweli di dâli’r enwir gwammal anian.

9 Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)ac uchel yw dy drigfan.

10 Ni ddigwydd niwed yt’, ond da,na phla, na dim’ echrydon,I’th Eglwys a’th gynlleidfa nawdd,

11 cans archawdd iw Angylion.I’th ffyrdd dy gadw, a’th gynllwyn,a’th ddwyn â’i dwylaw hardd-deg,

12 Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)taro dy droed wrth garreg.

13 Dy sangfa fydd ar y llew dig,a’r asp wenwynig sethri:Ar greulon genau’r llew o’r graig,ac ar y ddraig y sengi.

14 Mi a’i gwaredaf ef rhag brâd,am roi ei gariad arnaf:Am adnabod fy enw mau,yn ddiau y derchafaf.

15 Geilw arnaf, mi’ ai gwrandawaf,mewn ing y byddaf barod,Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,a chaiff drwy urddas fowrglod.

16 Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,caiff yn y byd hir ddyddiau.Dangosaf iddo radlawn faeth,a’m iechydwriaeth innau.