1 O Arglwydd na cherydda fi,ymhoethni dy gynddaredd:Ac na chosba fi yn dy lid,o blegid fy enwiredd.
2 O Arglwydd dy drugaredd dod,wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:O Arglwydd dyrd, iacha fi’n chwyrn,mae f’esgyrn i mewn cystudd.
3 A’m henaid i or llesgedd hyn,y sydd mewn dychryn sceler:Tithau O Arglwydd, paryw hyd?rhoi arnaf ddybryd brudd-der.
4 Duw gwared f’enaid, dychwel di,iacha fi a’th drugaredd:
5 Nid oes yn angau gof na hawl,a phwy ath fawl o’r pridd-fedd.
6 Diffygiais gan ochain bob nos,mewn gwal anniddos foddfa:Rwy’n gwlychu drwy y cystudd mau,a’m dagrau fy ngorweddfa.
7 O ddig i’m cas a goddef drwg,fy ngolwg sy’n tywyllu:A chan y dwfr a red yn rhaff,ynt angraff ac yn pylu.
8 Pob un a wnelo, aed ymhell,na dichell nac enwiredd:Cans clybu yr Arglwydd fy llais,pan lefais am drugaredd.
9 Yr Arglwydd clybu ef fy arch,rhof finnau barch a moliant:Fe dderbyn fy ngweddi, a’m gwaedd,am hyn yr haedd ogoniant.
10 Fe wradwyddir, fe drallodiryn ddir fy ngelynion:Ac fo’i dychwelir drwy fefl glwth,Hwynt yn ddisymwth ddigon.