Salm 33 SC

SALM XXXIII

Exultate iusti.

Mae yn annog y duwiol i fod yn ddiolchgar i Dduw am ei amryw ddaioni; gan ddangos na eill un creadur gadw dyn, ond daioni Duw.

1 Pa rai bynnag, yn Nuw yr Ion,sy gyfion, llawenychwch:I bawb ysydd yn iawn yn bywgweddus yw diolchgarwch.

2 A thannau telyn molwch ef,rhowch hyd y nef ogoniant:Ar y nabyl gywair ei thon,ac ar y gyson ddectant.

3 Cenwch i’r Ion fawl a mawrhâd,wiw gerdd o ganiad newydd:Cenwch iddo yn llafar glod,bid parod eich lleferydd.

4 Am mai union ydyw ei air,ffyddlon y cair ei weithred.

5 Cyfiownder a barn ef a’i câr,a’r ddaiar llawn o’i nodded.

6 Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,a’i Yspryd ef eu lluoedd:

7 Casclai efe ynghyd y mor,a’i drysor yw’r dyfnderoedd.

8 Yr holl ddaiar ofned ein Duw,a phob dyn byw a’i preswyl:

9 Ei arch a saif, a’i air a fydd,a hynny sydd i’w ddisgwyl.

10 Ef a ddirymmodd, (fy Nuw Ior)holl gyngor y cenhedloedd:A thrwy lysiant gwnai yn ddi rym,amcanion llym y bobloedd.

11 Ond ei gyngor ef oddi fry,a bery’n dragwyddoliaeth:A'i galonfryd efe ei hun,uwch para un genhedlaeth.

12 A phob cenhedloedd, dedwydd ynt,os Duw iddynt sydd Arglwydd:A'i etholion, efe a’i gwnaethyn etifeddiaeth hylwydd.

13 O’r nefoedd fry yr edrych Duw,ar llwybrau pob rhyw ddynion,Ac o’i breswylfa edrych ar,y ddaiar a’i thrigolion.

14 Yr hwn a luniodd galon dyn,a edwyn ei weithredoedd:

15 Ac ni chedwir un bydol gun,o’i nerth ei hun na’i luoedd.

16 A pheth palledig ydyw march,i gael parch ac ymwared:Ac ni all achub o law’r Ner,mo’i farchog er ei gryfed.

17 Wele lawn olwg Duw, a’i wawl,maent ar y sawl a’i hofno:A'i drugaredd ef sydd ar lled,i’r sawl a ’mddiried yntho.

18 Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,rhag angau enaid adyn:Ac i borthi y tlawd yn glau,rhag eisiau, a rhag newyn.

19 Ein henaid gan yr Arglwydd hael,sy’n disgwyl cael ei bywyd:Efe a byrth ein henaid gwan,efe yw’n tarian hefyd.

20 Sef yn unig yn Nuw yr Ion,mae’n calon yn llawenu:Ac yn ei Enw sanctaidd ef,mae hon yn gref yn credu.

21 Duw dy drugaredd dod i nisef ynot ti y credwn:Dy drugaredd a’th nawdd i’n dod,Cans ynod ymddiriedwn.