1 Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw,lle y daw i’m help wyllysgar.
2 Yr Arglwydd rhydd i’m gymmorth gref,hwn a wnaeth nef a daiar.
3 Dy droed i lithro ef nis gâd,a’th geidwad fydd heb huno:
4 Wele, ceidwad Israel lân,heb hun na heppian arno.
5 Ar dy law ddeau mae dy Dduw,yr Arglwydd yw dy geidwad,
6 Dy lygru ni chaiff haul y dydd,ar nos nid rhydd i’r lleuad.
7 Yr Ion a’th geidw rhag pob drwg,a rhag pob cilwg anfad:
8 Cai fynd a dyfod beth yn rhwydd,yr Arglwydd fydd dy geidwad.