Salm 2 SC

SALM II

Quare fremuerunt.

Mae’r prophwyd Dafydd yn yr yspryd glan yn rhagweled gwrthwyneb mawr i eglwys Christ. Lle y mae efe yn newid personau yn yr ymadrodd, mae’r yspryd yn gryfach na rheswm dyn.

1 Paham y terfysc gwyr y byd,a pham y cyfyd rhodres?Pam y mae’r bobloedd yn cyd-wau,yn eu bwriadau diles?

2 Codi y mae brenhinoedd byd,a’u bryd yn gydgynghorol:Yn erbyn Duw a’i Christ (ein plaid)y mae pennaethiaid bydol.

3 Drylliwn eu rhwymau, meddau hwy;ni wnawn ni mwy ufydd-dod:Ac ymaith taflwn eu trom iau,ni chant yn frau mo’n gorfod.

4 Ond Duw’r hwn sydd uwch wybrol lena chwardd am ben eu geiriau:Yr Arglwydd nef a wel eu bar,efe a’i gwatwar hwythau.

5 Yna y dywaid yn ei lid,a hyn fydd rhy brid iddyn:O’i eiriau ef y cyfyd braw,a’i ddig a ddaw yn ddychryn.

6 Gosodais innau (meddai ef)â llaw gref yn dragywydd:Fy Mrenin i, yn Llywydd llon,ar sanctaidd Sion fynydd.

7 Dyma’r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,hon gan yr Arglwydd clywais:Ti yw fy mab (o’m perffaith ryw)a heddyw i’th genhedlais.

8 Gofyn ym, a mi yt’ a’i rhydd,holl wledydd i’w ’tifeddu:Y cenedlaethau dros y byd,i gyd a gai meddiannu.

9 Ti a’i briwi hwynt, yn dy farn,â gwialen haiarn hayach:Ti a’i maluri, hwythau ân,mor fân a llestri priddach.

10 Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,byddwch ddoeth a synhwyrol:A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,i ostwng terfysg fydol.

11 Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,ac ofnwch ef drwy oglud:A byddwch lawen yn Nuw cu,etto drwy grynu hefyd.

12 Cusenwch y Mab rhag ei ddig,a’ch bwrw yn ffyrnig heibio:A gwyn ei fyd pob calon lân,a ymddiriedan yntho.