Salm 27 SC

SALM XXVII

Dominus illuminatio.

Ffydd Dafydd tuag at Dduw, tra orfu arno fod allan o’r orsedd: a’i gysur i bawb yn eu blinder.

1 Yr Arglwydd yw fy ngolau’ gyd,a’m iechyd: rhag pwy’r ofnaf?Yr Arglwydd yw nerth fo’es: am hyn,rhag pwy doe ddychryn arnaf?

2 Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,o’m cwmpas er fy llyngcu,Llithrasant a chwympasant hwy,ni ddaethant mwy i fynu.

3 Ni ddoe ofn ar fy nghalon gu,pe cyrchai llu i’m herbyn,Neu pe codai gâd y modd hwn,mi ni wanffyddiwn ronyn.

4 Un arch a erchais ar Dduw nâf,a hynny a archaf etto:Cael dyfod i dy’r Arglwydd glân,a bod a’m trigfan ynddo.I gael ymweled a’i Deml deg,a hyfryd osteg ynthiHoll ddyddiau f’einioes: sef wyf gaetho fawr hiraeth amdani.

5 Cans y dydd drwg fo’m cudd efeiw Babell neu ddirgelfa:Iw breswylfod, fel mewn craig gref,caf gantho ef orphwysfa.

6 Bellach fo’m codir uwch fy nghâs,sydd mewn galanas ymy:Aberthaf, caraf, mola’r Ionyn ffyddlon byth am hynny.

7 Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,bryssia a chlyw fy oernad:Trugarhâ wrthif, gwyl fy nghlwyf,y pryd y galwyf arnad.

8 Fel hyn mae ’nghalon o’m mewn iyn holi ac yn atteb,Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:fy Nuw rwy’n ceisio d’wyneb.

9 Na chudd d’wyneb, na lys dy wâs,fy mhorth a’m urddas fuost:Duw fy iechyd na wrthod fi,o paid a sorri’n rhydost.

10 O gwrthyd fi fy nhâd a’m mama’m dinam gyfneseifiaid:Gweddia’r Arglwydd, ef er hyno’i râs a derbyn f’enaid.

11 Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,oherwydd fy ngelynion,Ac arwain fi o’th nawddol râdyn wastad ar yr union.

12 Ac na ddyro fi, er dy râs,wrth fodd yr atcas elyn,Cans ceisiodd fy’nghaseion maudystion gau yn fy erbyn.

13 Oni bai gredu honof fi,bum wrth fron torri ’nghalon,Y cawn i weld da Duw’n rhâdo fewn gwlâd y rhai bywion.

14 Disgwyl di ar yr Arglwydd da,ymwrola dy galon:Ef a rydd nerth i’th galon di,os iddo credi’n ffyddlon.