1 Trugaredd dod i mi,Duw, o’th ddaioni tyner;Ymaith tyn fy enwiredd mauo’th drugareddau lawer.
2 A golch fi yn llwyr ddwysoddiwrth fawr bwys fy meiau:Fy Arglwydd, gwna’n bur lân fyfi,rhag brynti fy nghamweddau.
3 Cans adwen fy nghamwedd,a’m brwnt anwiredd yssig,Sef beunydd maent gar fy mron i,
4 Yn d’erbyn di yn unig,Y gwneuthym hyn oedd ddrwgyn dy lan olwg distrych,Fel i’th gyfiowner yn ol d’air,yn burair pan y bernych.
5 Mewn pechod lluniwyd fi,ac mewn drygioni dygas,Felly yr wyf o groth fy mamyn byw bob cam yn atgas.
6 Ac wele ceri’r gwiro fewn y gywir galon.Am hyn dysgaist ddoethineb iachy’m o’th gyfrinach ffyddlon.
7 Ag Isop golch fi’n lan,ni byddaf aflan mwyach,Byddafi o’m golchi mal hyn,fel eira gwyn neu wynnach.
8 Par i mi weled hedd,gorfoledd, a llawenydd,I adnewyddu f’esgyrn ia ddrylliaist di a cherydd.
9 O cuddia d’wyneb-prydrhag fy mhechodau i gyd,Fy anwireddau tyn eu lliw,o Arglwydd bid wiw gennyd.
10 Duw, crea galon bur,dod i mi gysur beunydd.I fyw yn well tra fwy’n y byd,dod ynof yspryd newydd.
11 O Dduw na ddyro chwaith,fi ymaith o’th olygon,Ac na chymer dy Yspryd glânoddiwrthif, druan gwirion,
12 Gorfoledd dwg i mi,drwy roddi ym dy iechyd:A chynnal a’th ysprydol ddawnfi, i fyw’n uniawn hefyd.
13 A dysgaf dy fford wiri’r enwir, a’th addoliad:A phob pechadur try i’r iawn,a chyrch yn uniawn attad.
14 Rhag gwaed gwared fi Dduw,sef Duw fy iechydwriaeth:A’m tafod o’th gyfiawnder dia gân gerdd wirgi hyffraeth.
15 Duw, egor y min mau,â’m genau mi a ganaf,O Arglwydd, gerdd o’th fawl, a’th nerth,fal dyma’r Aberth pennaf.
16 Cans Aberth ni’s ceisi,ac ni fynni offrwm poeth:Pe y mynasyt cowsyt hyn,nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.
17 Aberthau Duw i gyd,yw yspryd pur drylliedig,Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)y galon gystuddiedig.
18 Bydd dda wrth Seion fryn,o Arglwydd, hyn a fynni,Ac wrth Gaersalem dy dretâd,a gwna adeilad arni.
19 Cei aberth iownedd coeth,cei offrwm poeth yn rhagor,Cei aberth llosg, a bodlon fych,cei fustych ar dy allor.