Salm 116 SC

SALM CXVI

Dilexi quoniam.

Diolch Dafydd i Dduw am ei fawr gariad tuag atto ef, pan oedd Saul yn ei erlid ef yn niffeithwch Maon.

1 Da gennif wrando’ or Arglwydd nef,ar lais fy llef a’m gweddi:

2 Am iddo fy nghlywed i’n hawdd,byth archaf ei nawdd imi.

3 Mae maglau angau i’m cynllwyn,ym mron fy nwyn i’m beddrod:

4 Cefais ing. Ond galwaf fy Neri’m hoes, moes dyner gymmod.

5 Cyfion yw’r Ion trugarog iawn,ein Duw fy lawn o nodded.

6 Duw a geidw’r gwirion: bum i,mewn cyni, daeth i’m gwared.

7 O f’enaid dadymchwel o’r llwch:dyrd i’th lonyddwch bellach:Am i’r Arglwydd fod i ti’n dda,saf i’th orphwysfa bauach.

8 Oherwydd i Dduw wared f’oes,a’m cadw rhag gloes angau,Fy nrhaed rhag llithro i law drwg,a’m golwg i rhag dagrau.

9 Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,ym mysg gwyr byw y rhodiaf.

10 Fel y credais felly y tystiais,ar y testyn ymma.

11 Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,mae pob dyn yn gelwyddog,

12 Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,am dy ddaioni cefnog?

13 Mi a gymeraf, gan roi mawl,y phiawl iechydwriaeth,Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,ar enw yr Arglwydd bennaeth.

14 I’r Arglwydd talaf yn forau,fy addunedau ffyddlon,Y myd hyn o flaen ei holl lu,y modd y bu’n fy nghalon.

15 Marwolaeth ei sainct gwerthfawr ywyngolwg Duw: O cenfydd,Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,mab dy forwynig ufydd.

16 Datodaist fy rhwymau yn rhydd,fy offrwm fydd dy foliant.

17 Enw’r Arglwydd nid â o’m co,i hwnnw bo gogoniant.

18 I’r Arglwydd bellach tala’n fraufy addunedau cyfion.

19 Ynghaer Salem dy sanctaidd dy,o flaen dy deulu ffyddlon.