1 Teyrnasu y mae yr Arglwydd,mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:Ymwisgodd f’Arglwydd yn brydferth,a nerth yr ymwregysodd.
2 Fe a sicrhâodd sail y bydheb syflyd, yn ddihareb.Dy faingc erioed a ddarparwyd,ti wyd er tragwyddoldeb.
3 Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) fainty llifeiriaint yn codi,Tyrfau a llif yn rhwygo’r llawr,a thonnau mawr yn coethi.
4 Cadarn yw tonnau y moroedd,gan dyrfau dyfroedd lawer.Cadarnach yw yr Arglwydd mau,yn nhyrau yr uchelder.
5 Dy dystiolaethau ynt siwr iawn:sef cyfiawn yw sancteiddrwydd:A gweddus yn dy dy di fydd,byth yn dragywydd f’Arglwydd.