Salm 88 SC

SALM LXXXVIII

Domine Deus.

Y ffyddloniaid yn eu cystudd yn galw ar Dduw drwy ffydd.

1 O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,mae ’ngweddi’n ufydd arnad,

2 Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,a doed fy llef hyd attad.

3 Cans mae fy enaid mewn dull caeth,a’m heinioes aeth i’r beddrod:

4 Fel gwr marw y rhifwyd fi,a’m nerth oedd wedi darfod.

5 Mor farw a rhai wedi eu llâdd,a’i taflu ’nglhâdd mewn angof:A laddyt di mor siwr a hyn,na bai byth honyn atgof.

6 Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,ac mewn tywyllwch eithaf.

7 Rhoist bwys dy ddig ar y corph mau,a’th holl for-donnau arnaf.

8 Pellheist fy holl gydnabod da,r’wyf yn ffieidd-dra iddyn:Ni chaf fi fyned at un câr,yr wyf mewn carchar rhydyn.

9 Y mae fy ngolwg (gan dy lid)mewn gofid o fawr gystydd.Duw llefais arnad yn fy mraw,gan godi ’nwylaw beunydd.

10 Ai i’r meirw dangosi wyrth?a ddont i’th byrth i’th foli?

11 A draethir dy fawl yn y bedd,a’th ni lân wirionedd heini?

12 Ai mewn tywyll y mae dy râd?a’th iowndeb yng wlâd angof?

13 Fal hyn (Dduw) llefais arnat ti,o clyw fy ngweddi etto.

14 Pam (o f’Arglwydd a’m Duw) i’m rhaidy rhoi f’enaid ar wrthod?Ac y cuddi dy wyneb pryd?fy nghoel i gyd sydd ynod.

15 Truan ymron marwolaeth wyf,mewn trymglwyf o’m ieuenctyd:A'th ofni bum yn nychbeth gwael,gan ammau cael mo’r iechyd.

16 Dy ddig a lifodd drosof fi,d’ofn sydd i’m torri’n efrydd,Fel deifr y daethant yn fy nghylch,do, do, o’m hamgylch beunydd.

17 Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,pob cyfaill hygar heibio: 18 A’m holl gydnabod a fu gynt,yr ydynt yn ymguddio.