Salm 94 SC

SALM XCIV

Deus vltionum.

Gweddi at Dduw yn erbyn y gorthrymwyr, a chysur i’r gorthrymedig.

1 O Arglwydd Dduw,Duw mawr ei rym, dialwyr llym pob traha,O Dduw y nerth, ti biau’r tâl,a’r dial, ymddisgleiria.

2 Ymddercha di farnwyr y byd,a thâl i gyd eu gobrwy,I’r beilchion a’r trahaus dod,y tâl a fo dyladwy.

3 Ba hyd? (o Arglwydd) o ba hyd,y chwardd gwyr byd drygionus?

4 Yr ymfalchiant yn eu drwg,gan fygwth amlwg ffrostus?

5 A’th bobl di (Arglwydd) a faeddant,a chystuddiant dy dretâd,

6 Y weddw, a’r dieithr a laddant,lliasant yr amddifad.

7 Dwedasant hyn heb geisio cel,ein gwaith ni wel yr Arglwydd,Ac ni ddeall Duw Jago hyn,ynny ni ddisgyn aflwydd.

8 Ymysg y bobloedd difraw don,ystyriwch ddynion angall,Chwithau ynfydion, o ba brydy rhowch eich bryd ar ddeall?

9 Hwn a wnaeth y glust i bob byw,oni chlyw ef yn amlwg?Ac oni wyl hwnnw yn hawdda luniawdd i ni olwg?

10 Oni cherydda hwnnw chwisy’n cosbi pob cenhedlaeth?Ac oni wyr hwnnw y sy’ndysgu i ddyn wybodaeth?

11 Gwyr yr Arglwydd feddyliau dynmai gwagedd ydyn diffaith,

12 Duw, dedwydd yw a gosbech di,a’i fforddi yn dy gyfraith:

13 Yr hon a ddysg i ddyn warhau,i fwrw dyddiau dihir,Tra foer yn darparu y clawdd,y fan y bawdd yr enwir.

14 Cans ein Ior ni ei bobl ni âd,a’i wir dretâd ni wrthyd,

15 Ef at iawn farn a gadarnhâ,a phob dyn da a’i dilyd.

16 Pwy a gyfyd gyda myfi,yn erbyn egni trowsedd?Pa rai a safant ar fy nhuyn erbyn llu anwiredd?

17 Oni bai fod Duw imi yn borth,ac estyn cymorth imi,Braidd fu na ddaethai ym’ y loesa roesai f’oes i dewi.

18 Pan fawn yn cwyno dan drymhau,rhag bod i’m camrau lithro.Fy Arglwydd, o’th drugaredd drud,di a’m cynhelud yno.

19 Pan fo ynof’ amlaf yn gwau,bob rhyw feddyliau trymion,Doe dy ddiddanwch di ar dro,i gysuro fy nghalon.

20 A oes gyfeillach i ti Dduw,a maint yr annuwolion?Hwn a lunia enwiredd maithyn lle y gyfraith union.

21 Y rhai sy’n ymdyrru ynghyd,ar fryd dwyn oes y cyfion:Ac yn eu cyngor yr ymwnaedi geisio gwaed y gwirion.

22 Ond yr unic Ior sydd er hyn,yn llwyr amdiffyn f’enaid:Efe yw fy nerth o’m hol a’m blaen,a seilfaen fy ymddiriaid.

23 Efe a dâl i bob dyn drwg,yn amlwg am ei gamwedd:Y maleisus tyn Duw o’r byd,am ei chwyd o enwiredd.