Salm 59 SC

SALM LIX

Eripe me.

Dafydd yn ofni Saul, yn dangos ei ddiniweidrwydd ei hun, a chreulondeb ei elynion: yn gweddio yn erbyn pechaduriaid maleisus, ac yn moli Duw.

1 Fy Nuw gwareda fi rhac brâda rhac twyll fwriad gelyn,Derbyn di drosof rhac y rhaia godai yn fy erbyn.

2 Ac ymddiffyn fi bybyroddiwrth weithredwyr camwedd,Achub fyfi rhac câs y byd,a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.

3 Ac wele, maent hwy i’m cynllwyn,amranent ddwyn fy mywyd,Nid ar fy mai yr haeddais hyn,ond tynder gelyn gwaedlyd.

4 Duw rhedent hwy yn barod iawn,a dim ni wnawn iw herbyn.Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,a thyred i’m hymddiffyn.

5 Ti Dduw y llu, Duw Israel,o deffro gwael enwiredd,I’r cenhedloedd na âd di’n rhâd,lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.

6 Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr,o’mdroi ar wyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch eu swn,un wedd a’r cwn yn cyfarth.

7 Wele maent a thafodau rhydd,awch cledd a fydd iw genau,Pwy meddant hwy all glywed hyn?ac a wna i’n herbyn ninnau.

8 Ond tydi fy Arglwydd a’m Duw,a’i gwel, ai clyw, a’i gwatwar:Am ben eu gwaith y chwerddi diy cenhedlaethi twyllgar.

9 Ti a attebi ei nerth ef,a’th law gref a’m hamddiffyn

10 Duw a’m rhagflaena innau chwip,caf weled trip i’m gelyn.

11 Na lâdd hwynt rhag i’m pobloedd ianghofi dy weithredoedd:Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerthDuw darian prydferth lluoedd.

12 Am bechod eu tafodau hwy,a’i geiriau, mwyfwy balchedd,Telir iddynt ni ront air tegond celwydd, rheg, a choegedd.

13 Duw difa, difa hwynt i’th lid,a byth na fid un mwyach,Gwybyddant mai Duw Jago sydddrwy’r byd yn llywydd hyttrach.

14 Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyro’mdroi yn llwyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch ei swn,un wedd a chwn yn cyfarth.

15 I gael ymborth crwydro a wnant,ac oni chânt eu digon,Nes cael byddant ar hyd y nosyn aros dan ymryson.

16 Minnau a ganaf o’r nerth tau,a’th nawdd yn forau molaf:Nerth ym’ a nawdd buost (o Ner)pan fu gorthrymder arnaf.

17 I ti canaf, o Dduw fy nerth,a’m hymadferth rymusol,Sef tydi yw fy Nuw, fy Naf,fy nhwr fy noddfa rasol.