1 O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,a doed fy nghri hyd attad:
2 Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,clyw, clyw, pan alwyf arnad.
3 Fy nyddiau aethant fel y mwg,sef cynddrwg im cystuddiwyd:Fy esgyrn poethant achos hyn,fal tewyn ar yr aelwyd.
4 Fy nghalon trawyd â chryn iâs,ac fel y gwelltglas gwywodd:Fel yr anghofiais fwyta ’mwyddirmygwyd fi yn ormodd.
5 Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,gan faint fy mhoen a’m tuchan.
6 Fel un o’r anialwch, lle y trigy pelig, neu’r dylluan.
7 Neu fel un o adar y to,a fai yn gwilio ’i fywyd,Yn rhodio ’n unic ben y ty:wyf anhy ac anhyfryd.
8 Fy ngelynion â thafod rhydd,hwy beunydd a’m difenwant:A than ynfydu yn ei gwyn,i’m herbyn y tyngasant.
9 Fel llwch a lludw yn fy mhla,fu’r bara a fwyteais:Yr un wedd yn y ddiod faufy nagrau a gymysgais.
10 A hyn fu o’th ddigofaint di,am yt’ fy nghodi unwaith:Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,i’r llawr i’m teflaist eilwaith.
11 Fy nyddiau troesant ar y rhod,ac fel y cysgod ciliant:A minnau a wywais achos hyn,fel y glaswelltyn methiant.
12 Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,a barhei yn dragwyddol,O oes i oes dy enw a aethmewn coffadwriaeth grasol.
13 O cyfod bellach trugarhâ,o Dduw bydd dda wrth Sion:Mae’n fadws wrthi drugarhau,fel dyma’r nodau’n union:
14 Cans hoff iawn gan dy weision di,ei meini a’i magwyrau,Maent yn tosturio wrth ei llwch,a’i thristwch, a’i thrallodau.
15 Yno yr holl genhedloedd bywyr Arglwydd Dduw a ofnant:A’r holl frenhionedd trwy y byd,a ront yt gyd-ogoniant.
16 Pan adeileder Sion wych,a hon yn ddrych i’r gwledydd:Pan weler gwaith yr Arglwydd ne’,y molir e’n dragywydd.
17 Edrychodd hwn ar weddi’r gwael,rhoes iddynt gael ei harchau:
18 Scrifennir hyn: a’r oes yn ola gaiff ei ganmol yntau.
19 Cans Duw edrychodd o’r nef fry,ar ei gyssegrdy, Sion:
20 Clybu ei griddfan, er rhyddhauplant angau ’i garcharorion.
21 Fel y cydleisient hwy ar gân,yn Seion lân, ei foliant:Ac ynghaer-Salem yr un wedd,ei fowredd a’i ogoniant.
22 Hyn fydd pan gasglo pawb ynghyd,yn unfryd iw foliannu:A’r holl dyrnasoedd dont yngwyddyr Arglwydd, iw wasnaethu.
23 Duw ar y ffordd lleihâdd fy nerth,byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau:A mi’n disgwyl rhyddhâd ar gais,
24 yno y dywedais innau.O Dduw na thorr fy oes yn frau,ynghanol dyddiau f’oedran:Dy flynyddoedd di sydd erioed,o oed i oed y byddan.
25 Di yn y dechrau dodaist sail,odd’ isod adail daiar:A chwmpas wybren uwch ein llaw,yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.
26 Darfyddant hwy, parhei di byth,treuliant fel llyth trwssiadau.
27 Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant,felly newidiant hwythau:Tithau Arglwydd, yr un wyt ti,a’th flwyddau ni ddarfyddant.
28 Holl blant dy weision gar dy fron,a’i hwyrion a bresswyliant.