Salm 115 SC

SALM CXV

Non nobit Domine.

Y bobl a orthrymid gan dywysogion annuwiol, yn addo bod yn ddiolchgar, os Duw a wrandawai ei gweddiau, ac a i gwaredai hwynt.

1 Nid i ni Arglwydd, nid i ni,y dodi y gogonedd,Ond i’th enw dy hun yn hawdd,er mwyn dy nawdd a’th wiredd.

2 Pa’m y dwedant am danat tiy cenedlaethi estron:A thrwy edliw hynny yn fwy,ple’y mae’u Duw hwy yr awron?

3 Sef ein Duw ni mae yn y nef,lle y gwnaeth ef a fynnodd.

4 Eu delwau hwy, aur, arian yn’,a dwylo dyn a’i lluniodd.

5 Safn heb draethu: llun lygaid glân,y rhai’n ni welan ronyn:

6 Trwyn heb arogl, clustiau ar lledheb glywed, y sydd ganthyn.

7 Ac i bob delw y mae dwy lawheb deimlaw, traed heb symyd:Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,fal dyna ddyfais ynfyd.

8 Fel hwyntwy ydyw’ rhai a’i gwnant,a’r rhai a gredant iddynt:Am hyn ni ddylai neb drwy gredroi mo’i ymddiried arnynt.

9 O Israel, dod ti yn rhwyddar yr Arglwydd dy hollfryd,Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.

10 O ty Aron, dod tithau’n rhwydd,ar yr Arglwydd dy hollfryd:Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,eu porth a’i tarian hefyd.

11 Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,rhowch arno’ch union hollfryd.Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,eich porth a’ch tarian hefyd.

12 Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plithfo roes ei fendith rhadlon:I dy Israel rhydd ei hedd,ac unwedd i dy Aaron.

13 Sawl a’i hofnant bendithiant ef,yr Arglwydd nef canmolan:A’i enw sanct o’r nef i’r llawr,bendithied mawr a bychan:

14 Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,a wna ddaioni amlach.Ac a chwanega ar eich plantei fwyniant yn rymusach.

15 Y mae ywch fendith a mawr lwydd,gan y gwir Arglwydd cyfiawn,Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,ar ddayar obry yn gyflawn.

16 Y nef, ie’r nefoedd uwchlaw,sy yn eiddaw Duw yr Ion:Ar ddaiar, lle y preswyliant,a roes ef i blant dynion.

17 Pwy a folant yr Arglwydd? Pwy?gwn nad hwyntwy y meirwon,Na’r rhai a ânt i’r bedd yn rhwydd,lle y mae distawrwydd ddigon.

18 Ond nyni daliwn yn ein coffyth fyth fendithio’r Arglwydd.Molwch yr Arglwydd yn un wedd,a mawl gyfannedd ebrwydd.