1 Yr Arglwydd ydyw ein pen rhaith,bo perffaith y ddaiaren:Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,bont hwy i gyd yn llawen.
2 Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,hyfrydwch nef gyfannedd:Iawnder a barn ydynt yn sail,ac adail maingc ei orsedd.
3 Tân â o’i flaen ef, ac a lysgym mysg ei holl elynion:
4 A’i fellt yn fflamio trwy’r holl fyd,oedd olwg enbyd ddigon.
5 O flaen Duw, fel y tawdd y cwyr,y bryniau’n llwyr a doddent:O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ary ddaiar y diflannent.
6 Yr holl nefoedd yn dra hysbysa ddengys ei gyfiownedd:A’r holl genhedloedd a welsantei fawr ogoniant rhyfedd.
7 Gwradwydd i’r rhai a wasnaethany delwau mân cerfiedig:Addolwch ef (nid aulun cau)holl dduwiau darfodedig.
8 Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)a glybu Sion ddedwydd:Merched Juda (o herwydd hyn)sy’n ynnyn o lawennydd.
9 Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,oruchaf dros y ddaiar:Rhagorol yw’r derchafiad tauuwchlaw’r holl dduwiau twyllgar.
10 Pob drygioni chwi a gasewch,caru a wnewch yr Arglwydd,Hwn sydd yn cadw oes ei Sainct,i’w dwyn o ddrygfraint afrwydd.
11 Mewn daiar yr egina’i hâd,goleuad daw i’r cyfion,Yn ol tristwch fo dry y rhod,i lân gydwybod union.
12 Yn yr Arglwydd, o’r achos hon,chwi gyfion llawenychwch,Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,â llais hyd nef moliennwch.